Bryn Terfel
Bydd cyngerdd arbennig yn cael ei gynnal heno i nodi pen-blwydd y canwr byd-enwog, Bryn Terfel, yn 50 oed yn Neuadd Albert yn Llundain.

Yn perfformio bydd rhai o gantorion a cherddorion mawr y byd, gan gynnwys Sting a Catrin Finch.

Y gerddorfa siambr, Sinfonia Cymru sy’n cynnal y noson, o dan arweiniad ei phrif arweinydd Gareth Jones.

Mae’r perfformwyr eraill yn cynnwys Danielle de Niese, Alison Balsom, Rebecca Evans, Only Men Aloud, Calan, a John Owen Jones.

Bydd y noson yn cael ei chyflwyno gan yr actor Hollywood Michael Sheen a bydd yn llawn o rai o hoff emynau ac ariâu’r canwr opera bas-bariton, a wnaeth ennill gwobr Grammy yn 2013.

“Rwyf wrth fy modd i fod yn dathlu fy mhen-blwydd yn 50 yn Neuadd Albert, lleoliad sydd a chymaint o atgofion melys i mi trwy gydol fy ngyrfa.

“Fe fydd y cyngerdd arbennig yma yn ddathliad o fy hoff gerddoriaeth, o Mozart i Sondheim, o Wagner i Rodgers & Hammerstein – ac ambell syrpreis hefyd,” meddai Bryn Terfel.