Oes gan Carwyn Jones a'i lywodraeth ffordd o ddatrys ffrae'r M4?
Hefin Jones sydd wedi bod yn cymryd ei gip unigryw yn ôl ar ambell un o ddigwyddiadau mwyaf cofiadwy’r dyddiau diwethaf …

Gwerth £2bn o darmac i Gasnewydd

Wythnos wedi i Edwina Hart gyfaddef ei bod wedi talu £20m i bobl feddwl am adeiladu traffordd newydd i basio Casnewydd, gan ddisodli’r draffordd bresennol sydd hefyd yn pasio Casnewydd, daeth ffigyrau newydd i’r fei yn nodi mai £52m sydd wedi ei wario hyd yn hyn – £40m ar y Meddwl a £12m ar brynu’r tir cyn penderfynu lle’r aiff – ac y bydd yn costio mwy fel £2000 miliwn (neu £2bn i gymryd y ffurf Americanaidd fabwysiedig), nid y £1000 miliwn nodwyd, i dollti’r tarmac.

Bernie ‘bring it on’ Attridge yn achub cam

Ac wrth i Lafur Prydain smalio na fydd y bleidlais i wario £100,000,000,000 (neu £100bn os mynnir) ar y botwm newydd i lansio Trident yn rhwygo’r blaid, ni ddangosodd Llafur Cymru’r un fath o ysbryd wrth i Jenny Rathbone gael ei diswyddo o’i rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni Ewropeaidd, wedi iddi ddatgan ei hamheuaeth am werth lôn fawr Casnewydd. Wedi i Bernie Attridge Llafur, Dirprwy Arweinydd Cyngor y Fflint, amddiffyn yr aelod dros Ganol Caerdydd gan alw Carwyn Jones yn unben, nododd ei fod wedi derbyn neges gan y blaid yn bygwth ei wahardd. O’i ymateb ‘bring it on‘ mae’n bosib na weithiodd y bygythiad.

Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw

Bosib ei fod yn adeg da i gofio’r si fod Llundain wedi gadael i Lywodraeth Cymru fenthyg arian ar eu pennau bach eu hunain erbyn 2018… ar yr amod fod yr arian yn cael ei wario ar wella’r M4, yn union fel oedd Carwyn wedi nodi yn ei ymbil. Ar ben hynny, roedd rhaid i Carwyn druan fygwth osgoi ymgyrchu yn erbyn annibyniaeth i’r Alban er mwyn cael ei Ffordd…Osgoi.

Dyma’r Ffordd i Fro Gogoniant

Yn wir, bradychodd y bradwr Alex Salmond ein harweinydd ar y teledu yn ystod refferendwm ei wlad flwyddyn yn ôl: “I was sitting in a very interesting meeting in Downing Street a few months back where Carwyn Jones was making it absolutely clear that unless he got the borrowing powers to complete a motorway to Wales, then he wasn’t going to be very obliging as far as the No campaign were. I congratulate the Welsh First Minister on getting his motorway. But I think he’ll find it a very difficult message to sell in the streets and byways around Scotland.”

Gwaith ditectif rhagorol

I Gronfa Pensiwn Aelodau’r Cynulliad, lle datgelwyd fod cannoedd o filoedd o bunnau wedi eu buddsoddi mewn cwmnïau tybaco, cwmnïau egni rhyngwladol a’r cwmni Americanaidd Monsanto, prif fandit cwmnïau hyll y byd aiff, er enghraifft, a ffermwyr bach gwledydd o India i Guatemala i’r llys oherwydd cytundebau masnach sy’n gorfodi defnydd o’u hadau penodol drud yn hytrach na’u hadau brodorol eu hunain. Ond mae £10 miliwn wedi ei fuddsoddi mewn mannau lle na feiddir eu datgelu, mewn cwmnïau sydd bid siŵr yn llawer llai amwys eu rhinwedd. Clod i Gyfeillion y Ddaear Cymru (ac i flog Y Naturiaethwr) am y gwaith ditectif rhagorol yma.

Man Gwyn Man Draw

Yn enghraifft o’r culni y mae byrddau Prifysgolion Cymru wedi brwydro’n ei erbyn erioed daeth deiseb i alw ar Brifysgol Aberystwyth i ymatal eu buddsoddiad mewn campws newydd ym Mauritius, yn dadlau fod gwario i’w wneud ar adeiladau ychydig agosach at adref. “We chose the beautiful island of Mauritius,” esbonia’u gwefan yn ei sombrero, “because of its superb location and its excellent traditions of educational development. We also know that there are many students like you who would rightly value the high standards of British higher education”. Pwy all ddadlau yn erbyn y fath ddatblygiad, yn enwedig pan ddaw’r stormydd i Aber eto?

Torri Cefn y Mul

Gall Happy Donkey Hill, yr enw newydd ar Faerdre Fach yn Llandysul, ennill ei le yn hanes fel yr enw a wthiodd y drol drosodd, gan godi galw am ddeddf i warchod enwau Cymraeg. Ac fel fflach daeth y newyddion fod datblygwyr Plas Glynllifon wedi penderfynu gwerthu’r behemoth dan yr enw Wynnborn, oedd hefyd yn ’distinctly British’, tan newid eu meddwl o fewn diwrnod wedi cynifer o gwynion gan y trigolion mewnblyg.

Nhw a’u Propaganda

At y bythol gytbwys ITN News, ac adroddiad Lucy Watson o fynd am dro yng Ngogledd Corea. “Solemn faces of a closed society on the tube trains” medd y gohebydd eofn, yn wrthgyferbyniad amlwg i’r torfeydd sy’n wên o glust i glust ar diwb Llundain. “A young boy appeared shocked to see our news cameras” meddai dros lun o hogyn bach oddeutu pump yn edrych ar y camera mewn modd ychydig bach yn syn na welir ar blant pump oed Lloegr sydd oll wedi derbyn hyfforddiant cyfryngol erbyn hynny. “The monstrous war museum is prominent” medd dros lun o dair delw ar y stryd na fyddai fyth o’u bath i’w gweld yn Llundain, “as they continue to threaten the US and South Korea with nuclear force. And propaganda is never far away”. Ti’n llygad dy le’n fanna, Lucy.

Plastig Ffantastig 2

Wrth i Loegr straffaglu â’r angen i dalu am fagiau daeth Richard Keys, yr arbenigwr hawliau cyfartal a chyn-angor pêl-droed Sky Sports, i faes y gad yn ddiarwybod. “Would love to know what M&S do with the 5p they charge for plastic bags” trydarodd yn swta. “Just left £50 of food at check out and went to the Co-Op”. Ni ddaeth newyddion os gadawodd ei droli yn y siop honno hefyd. Smashied.

Un Iaith?

Clap mawr i UEFA sydd wedi mynnu fod pob gwlad yn rhedeg ei graffeg a’u hanthem swyddogol hi ar eu rhaglenni teledu, gan gynnwys y geiriau European Qualifiers. Darn bach arall o Saesneg ar S4C.

Blwch Post-trawma

“Rydym yn byw yn yr oes ddiflas” medd Kevin Beresford, yn ymddangos fel bod pwynt ganddo. “13 miliwn o bobl yn edrych ar rywun yn pobi cacen, a bwndel o frics yn denu pobl i oriel Tate” ychwanegodd wrth hoelio ei ddadl. Ond beth aeth o’i le? “Mae pobl yn canolbwyntio ar y rygbi a’r pêl-droed yn hytrach na blychau post” esboniodd yn llai effeithiol, ei galendr o flychau post Cymru heb werthu’r un copi eto.

Y Diwrnod yn Drech

Roedden nhw yn gemau llawer difyrrach i’w profi dan ofal Nic Parry a Malc ar yr uchafbwyntiau, ond am eiliad fe aeth yr achlysur hyd yn oed i ben Nic wrth iddo sylwebu beth oedd neb yn ei feddwl a nodi ei bod hi’n “amser anghofio am ’58, blwyddyn geni Ian Woosnam...”. Er, llai dadleuol na sylwebaeth Wyn Gruffydd wrth ddatgan am reolwyr Cymru ac Awstralia fod “y ddau ohonynt wedi bod drwy’r ffosydd, fel petai. Dwyt ti ddim yn magu cymeriad wrth ddarllen llyfrau.”