William Graham
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “gyfyngu” rhaglen meithrin sgiliau gweithwyr newydd i’w “chadarnleoedd” yng Nghymoedd y De.

Bydd y cynllun yn cynnig hyfforddiant technegol i weithwyr yn Nhorfaen, Blaenau Gwent, Caerffili a Merthyr Tudful dros y tair blynedd nesaf – ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai’r bobol yn ardaloedd hyn sydd fwyaf o angen help.

Ond mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr Economi, William Graham AC, wedi dweud y dylai’r cynllun gael ei ehangu er mwyn i weithwyr y tu allan i “gadarnleoedd” Llafur gael elwa ohono.

“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gynlluniau sy’n buddsoddi yng nghadarnleoedd Llafur a gallwch ddweud bod etholiad yn agosáu,” meddai William Graham.

“Bydd hybu hyfforddiant yn y gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant a bydd yn wych i’r rhai sy’n elwa ohono, ond byddai cynllun sydd ar gael i weithwyr ledled Cymru yn cael llawer fwy o groeso.”

Hefyd mae’r Ceidwadwr yn gofyn pam nad yw’r cynllun wedi cael ei gyflwyno i gyflogwyr yn y gogledd, canolbarth neu’r gorllewin, gan fod y cynllun wedi cael ei ariannu ar y cyd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

Daw £2.7 miliwn o’r Undeb Ewropeaidd a £1.1 miliwn o Lywodraeth Cymru i ariannu’r cynllun sy’n werth £3.8 miliwn.

“Y sylwadau hyn yn dangos diffyg dealltwriaeth” – Llywodraeth Cymru

“Dydyn ni ddim am ymddiheuro am roi cymorth i’r sawl sydd ei angen mwyaf. Rydym yn falch iawn bod pobl yn ne ddwyrain Cymru yn gallu elwa ar y rhaglen bwysig hon,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae £205 miliwn o gronfeydd Ewropeaidd wedi cael eu buddsoddi yng nghynlluniau gwerth hanner biliwn o bunnoedd, gan helpu pobl ledled Cymru i ddod o hyd i waith neu ddysgu sgiliau newydd.

“Mae’r sylwadau hyn yn dangos diffyg dealltwriaeth o sut mae rhaglenni’r Undeb Ewropeaidd yn gweithio. Nid yw Gweinidogion Cymru yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau cyllid ar brosiectau. Mae’r rain yn cael eu gwneud gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, yn unol â blaenoriaethau a thargedau buddsoddi rhaglenni cyllid yr UE, sy’n cael eu cytuno gan y Comisiwn Ewropeaidd.”