Huw Lewis
Mae’r Gweinidog Addysg wedi dweud ei fod “am i bob plentyn gael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn llwyddiannus”, a’i fod yn “ymrwymedig i weld y sector addysg Gymraeg yn tyfu”.

Ond ni fydd Huw Lewis yn diddymu Cymraeg Ail Iaith fel pwnc, fel mae llawer wedi galw arno i wneud.

Y gred gyffredinol yw bod disgyblion sy’n astudio Cymraeg Ail Iaith â gafael wan iawn arni, ac mae academydd blaenllaw wedi galw am ddiddymu’r pwnc.

Roedd hynny’n ymddangos yn debygol wythnos yn ôl, pan wnaeth Huw Lewis ddweud wrth Gymdeithas yr Iaith fod y “cysyniad o’r Gymraeg fel Ail Iaith yn gysyniad sydd ddim yn gweithio bellach, felly dyw hi ddim yn gwneud synnwyr o gwbl i gael cymhwyster o’r fath”.

Beirniadaeth hallt gan ymgyrchwyr iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio Huw Lewis heddiw gan ddweud ei fod yn dangos “diffyg gweledigaeth a diffyg arweiniad.”

“Mae’r Llywodraeth wedi dewis anwybyddu adroddiad gan Yr Athro Sioned Davies, adroddiad y  gwnaethon nhw ei gomisiynu eu hunain. Maen nhw hefyd yn anwybyddu barn arbenigwyr eraill fel Yr Athro David Crystal sydd wedi cefnogi ein hymgyrch dros addysg cyfrwng Cymraeg i bawb,” meddai Toni Schiavone, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Ein pryder yw y bydd y polisi newydd hwn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o blant yn parhau i ddioddef system eilradd sy’n golygu na fydd modd iddyn nhw weithio na chyfathrebu yn Gymraeg.”

Dywedodd ei fod wedi cael ei “synnu nad yw’r Llywodraeth yn sylweddoli’r hyn sydd ei angen”.

“Mae’n debyg y bydd yn rhaid cael Llywodraeth newydd i sicrhau bod gwir newid yn digwydd.”

Derbyn argymhellion Donaldson

Fe fydd y Gweinidog Addysg yn derbyn pob un o 10 argymhelliad yr Athro Donaldson ar y Gymraeg, yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus, ond dim ond rhai o argymhellion adroddiad Un Iaith i Bawb yr Athro Sioned Davies, sy’n galw ar y Llywodraeth i ddileu’r cysyniad o Gymraeg ail iaith yn ein hysgolion.

Mae argymhellion yr Athro Donaldson yn cynnwys parhau’r Gymraeg fel pwnc gorfodol i blant a phobl ifanc hyd at 16 oed a chanolbwyntio o’r newydd ar ddysgu Cymraeg yn bennaf fel ffordd o gyfathrebu.

Yn y cwricwlwm newydd, fe fydd chwe “Maes Dysgu a Phrofiad” newydd, gydag un ohonyn nhw’n canolbwyntio ar Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a fydd yn “datblygu sgiliau Cymraeg dros amser”.

Ac fe fydd pob un o’r meysydd hyn, yn ôl y Gweinidog, yn cynnwys, “lle’n briodol, dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol”, sef un o argymhellion yr Athro Davies.

“Canolbwyntio ar werth masnachol y Gymraeg”

Fe fydd Huw Lewis yn galw ar ysgolion i “ganolbwyntio mwy ar werth masnachol” y Gymraeg yn y farchnad swyddi a’i “phwysigrwydd” i “alluogi” plant a phobl ifanc i ddeall bywyd diwylliannol Cymru yn y gorffennol a’r presennol.

“Gadewch i mi fod yn glir, rwyf am i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru gael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn llwyddiannus,” meddai.

Ond hefyd, dywedodd nad oes “ateb cyflym” i wneud hyn, ac mae wedi gofyn i Cymwysterau Cymru, y corff cymwysterau annibynnol newydd, i “ystyried yr ystod bresennol o gymwysterau Cymraeg ail iaith a chynghori sut i’w newid,” gan awgrymu nad yw am weld diwedd i Gymraeg ail iaith eto.