Mae ymchwil yn awgrymu mai’r Cymry yw’r bobl lanaf ym Mhrydain, gan ein bod ni’n treulio mwy o amser yn yr ystafell ymolchi pob dydd nag unrhyw un arall.
Yn ôl arolwg o 2,000 o bobl mae’r Cymry yn treulio cyfartaledd o 31 munud y dydd yn yr ystafell ymolchi o’i gymharu â 30 munud yn Lloegr, 29 yn yr Alban a 29 yn Iwerddon.
Dyw pob rhan o Gymru ddim yn ymddangos mor lân â’i gilydd, fodd bynnag, gyda’r ymchwil yn awgrymu bod pobl Aberystwyth yn gwario 56% yn llai ar ddeunyddiau ymolchi (£29.57) nag unrhyw ran arall o Brydain.
Mae’n ymddangos bod y tymhorau yn chwarae eu rhan hefyd, gyda 34% yn cyfaddef eu bod yn cael llai o gawodydd yn ystod misoedd oer y gaeaf a dros hanner y merched yn treulio llai o amser yn eillio coesau ac ymbincio’u traed.
Un o bob deg ddim yn newid trôns
Yn ôl yr ymchwil gafodd ei wneud gan gwmni Geberit AquaClean, sydd yn gwerthu bidets, mae’r Cymry hefyd yn fwy tebygol o ddweud bod hylendid personol yn bwysig iawn iddyn nhw na phobl cenhedloedd eraill Prydain.
Ond mae arferion yn newid yn y gaeaf, gyda dros chwarter y bobl yn cyfaddef nad ydyn nhw’n treulio cymaint o amser yn yr ystafell ymolchi, a’r Cymry yn fwy tueddol o feio oerfel am beidio â neidio i mewn i’r gawod.
Ac i 65% o ferched mae diwedd tywydd braf yr haf a’r angen i roi mwy o ddillad ymlaen yn golygu gwario llai o amser ar eillio coesau, gyda 56% hefyd yn rhoi llai o sylw i’w traed.
Nid pawb sydd yn talu’r un sylw i’w hylendid personol chwaith – fe gyfaddefodd 10% o oedolion nad oedden nhw’n newid eu dillad isaf bob dydd, gydag 1% yn dweud eu bod yn gwneud llai nag unwaith yr wythnos!
“Er ei bod hi’n wir fod angen mwy o ofal i hylendid personol yn ystod misoedd yr haf, fe ddylen ni gadw i’r un patrwm hylendid cyson drwy gydol y flwyddyn,” meddai cyfarwyddwr marchnata Geberit AquaClean, Raffaela De Vittorio.