Morgan Owen
Mae UKIP a’i demagogiaeth Brydeinig yn peryglu hanes ac iaith y fro, yn ôl Morgan Owen

Clywn hyd syrffed am hanes Merthyr a’i mawredd yn y dyddiau fu fel canolfan ddiwydiannol anferthol, ac yn wir, ar un adeg, gynhyrchydd haearn mwyaf y byd.

Ond bron yn ddieithriad, caiff elfen ganolog o’i hanes ei hesgeuluso. Yr elfen honno yw’r iaith Gymraeg. Byddai’r mwyafrif llethol o drigolion y dre yn rhyfeddu ar glywed yr oedd 51% o boblogaeth Merthyr yn medru’r iaith yn 1911 yn ôl Cyfrifiad y flwyddyn honno.

Cwta gan mlynedd yn ôl, tre Gymraeg oedd Merthyr Tudful, fel y buasai ers ein cofnod cyntaf ohoni. Os awn yn ôl i 1891, roedd 68% o boblogaeth Merthyr yn siarad Cymraeg, sef 75,000 o bobl. Prin y ceir unrhyw olion o’r Cymreictod hwnnw y dwthwn hwn y tu hwnt i arwyddion dwyieithog gwallus ac ambell atgo’ am hen dad-cu neu hen fam-gu a oedd yn wilia’r Gwmbrêg, fel y byddid wedi dweud yn nhafodiaith ddarfodedig yr ardal, y Wenhwyseg.

Ond eto i gyd, erys y Gymraeg yn iaith fyw ym Merthyr heddiw, gyda rhyw 10% o’r boblogaeth yn siarad yr iaith, sef lleiafrif gweddol fawr.

Bid sicr, y mae mwy o siaradwyr Cymraeg ym Merthyr na mewnfudwyr, sydd yn chwalu’r ddadl dwyllodrus yr ydych yn clywed o bryd i’w gilydd bod mwy o siaradwyr Pwyleg ym Merthyr na siaradwyr Cymraeg! Ond serch hynny, hyd yn oed pe bai siaradwyr Cymraeg yn llai niferus na siaradwyr pob iaith arall a siaredir ym Merthyr, byddai’r un pwysigrwydd yn perthyn iddi, oherwydd bod y Gymraeg yn rhan annatod o hanes y dre am y rheswm syml bod Merthyr wedi bod yn dre Gymraeg yn hwy nag ydyw wedi bod yn dre Saesneg ei hiaith.

Pan oedd Merthyr ar ei hanterth fel tre ddiwydiannol fwyaf Cymru yn ail hanner yr 1800au, cymdeithasai mwyafrif ei thrigolion yn y Gymraeg, cofnodent eu hanes yn y Gymraeg, llenyddent yn Gymraeg, dathlent yn Gymraeg, addolent yn Gymraeg.

Yn wir, ni ellir bwrw golwg gyflawn ar hanes Merthyr heb ystyried y ffynonellau uniaith Gymraeg o’i dyddiau cynnar. Pe na baem yn cydnabod arwyddocâd yr iaith Gymraeg i hanes y dre, fe âi rhan go helaeth o’i hanes cyn 1900 yn angof, a ninnau felly yn bobl heb gof, heb hanes a heb wreiddiau. Ac mae pobl felly yn sglyfaeth i bob demagog.

Ac fe welwn effaith y fath ddemagogiaeth hon ym Merthyr gyda UKIP. Nid oes dim am y blaid honno sydd yn adlewyrchu na hanes na chymeriad y dre. Tre Gymreig â hanes Cymraeg yw Merthyr Tudful, gyda thraddodiad o wleidyddiaeth asgell chwith wedi’i seilio ar gyfiawnder cymdeithasol; plaid Seisnig, asgell dde yw UKIP sydd yn ceisio twyllo trigolion Merthyr gyda rhagfarnau yn erbyn pobloedd eraill, a phlaid sydd, yn ogystal, yn ddilornus o’r iaith Gymraeg a’r hunaniaeth Gymreig.

Gall cenedlaetholdeb Prydeinllyd UKIP ddim ond ffynnu yma os ydym yn cefnu ar ein hiaith, sydd yn ei thro, yn sylfaen ein hunaniaeth Gymreig. Hunaniaeth Seisnig a chwbl Saesneg yw Prydeindod UKIP nad yw’n cydnabod arwahanrwydd Cymru o gwbl. Os ydym ym Merthyr yn esgeuluso ein hanes Cymraeg, gall ddemagogiaeth asgell dde ennill troedle yn y dre, a thrychineb fyddai hynny.

Mae pobl sydd yn wybodus am eu hanes eu hunain yn gallu wynebu’r dyfodol yn hyderus, ac mae angen dybryd y fath hyder ar Ferthyr. Cofiwn, felly, ein hanes, a lle’r Gymraeg ynddo.

Mae Morgan Owen yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Gallwch ddarllen blog cynharach ganddo am dwf UKIP yn ardal Merthyr Tudful yma.