Craen yn codi gweddillion yr awyren o safle'r ddamwain yn Shoreham
Mae Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno cyfyngiadau llym ar sioeau awyr dros dir mewn hen awyrennau, yn sgil damwain sioe awyr Shoreham dros y penwythnos.

Dywed y CAA ei fod yn cyflwyno’r cyfyngiadau newydd ar sioeau awyr tra bod yr awdurdodau’n cynnal ymchwiliad trylwyr i’r ddamwain.

Dywedodd y corff rheoleiddio mewn datganiad y byddai’r CAA yn cynnal asesiadau risg ar gyfer yr holl sioeau awyr sydd wedi’u trefnu er mwyn asesu a oes angen cyflwyno mesurau ychwanegol.

Mae Heddlu Sussex wedi rhybuddio y gallai nifer y meirw yn sgil y ddamwain ddydd Sadwrn gynyddu i 20.

Symud gweddillion yr awyren

Yn y cyfamser mae craen wedi  dechrau symud gweddillion yr awyren Hawker Hunter, sy’n dyddio o’r 1950au, o’r safle lle plymiodd i’r ddaear gan daro yn erbyn nifer o gerbydau ar ffordd yr A27.

Mae’r CCA yn dweud eu bod nhw wedi cymryd camau ar ddiwrnod y ddamwain i sicrhau nad oedd rhagor o deithiau gan awyrennau Hawker Hunter ac mae’r cyfyngiad yn parhau mewn grym.

Mae peilot yr awyren, Andrew Hill, yn parhau mewn cyflwr difrifol iawn ac mewn coma yn yr ysbyty.

Mae ei deulu wedi mynegi eu cydymdeimlad dwysaf gyda theuluoedd y rhai gafodd eu lladd.

Cafodd o leiaf 11 o bobl eu lladd yn y ddamwain ac mae’r heddlu’n credu y gallai’r ffigwr gynyddu i 20 unwaith y bydd y gwaith o glirio’r gweddillion wedi’i gwblhau.

Ymhlith y tri fu farw sydd wedi cael eu henwi mae pêl-droedwyr Worthing United, Matthew Grimstone a Jacob Schilt, y ddau’n 23 oed, a’r hyfforddwr personol Matt Jones, 24 oed.

Mesurau diogelwch

Mae nifer wedi galw am dynhau’r mesurau diogelwch mewn sioeau awyr yn sgil y ddamwain ond mae disgwyl i nifer o sioeau sydd eisoes wedi cael eu trefnu gael eu cynnal, er gwaetha’r pryderon.

Mae Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol (Rafa), sy’n trefnu sioe awyr Shoreham yng ngorllewin Sussex, wedi amddiffyn ei record diogelwch gan ddweud bod safonau mewn sioeau awyr ym Mhrydain “ymhlith y gorau yn y byd.”

Dywed Rafa ei fod yn rhoi “pob cymorth” i’r Adran Ymchwiliadau i Ddamweiniau Awyr (AAIB) sy’n ymchwilio i achos y ddamwain ond mae wedi rhybuddio y gall gymryd “amser sylweddol” i gwblhau’r ymchwiliad.

Mae crwner Gorllewin Sussex Penny Schofield hefyd wedi rhybuddio bod y gwaith o adnabod y rhai fu farw yn broses “hir a manwl” ac mae wedi apelio ar y cyhoedd i fod yn amyneddgar. Fe all gymryd nifer o wythnosau cyn bod yr ymchwiliadau i gyd wedi’u cwblhau, meddai.