Morgan Owen
Mae’r iaith Gymraeg yn hollol greiddiol i’r frwydr am hunanreolaeth, yn ôl Morgan Owen

Pam ydym yn dodi cymaint o bwys ar yr iaith Gymraeg yn ein hymdrech i sicrhau hunanreolaeth? Mae’n werth dod yn ôl at y pwynt hwn o bryd i’w gilydd, am fod yr iaith yn faen tramgwydd i gynifer o hyd – neu i dyb sawl un, yn llyffethair. Eir ati yn hon o lith i fwrw ymaith y camsyniadau, gan obeithio ail-sadio pwysigrwydd yr iaith ym mrwydr Cymru dros ei hawl i’w rhyddid.

Yn gyntaf, trown ein golygon dros ein hysgwyddau yn ôl at ddechrau’r 60au. Wrth haeru pwysigrwydd gwleidyddol yr iaith Gymraeg ni ellir osgoi cyfeirio at Tynged yr Iaith. Ond nid diberfeddu’r araith honno yw fy amcan, eithr crynhoi mewn fyr o eiriau, trwy un dyfyniad, neges a erys yr un mor wir am ein hoes ninnau. “Os un deyrnas cwbl unedig yw Lloegr a Chymru… yna mae bod iaith Gymraeg hanesyddol yn dramgwydd politicaidd, yn atgo am gyflwr gwahanol, yn berig i’r Undod”. Nid dyfynnu Saunders Lewis er mwyn consurio’r traddodiad, os mynner, o ymdrin yn wleidyddol â’r iaith Gymraeg ydwyf, nac ychwaith troedio llwybr uniongrededd yn ddifeddwl; erys y ffaith mai Prydeindod fel ideoleg yw’r hual trymaf ar Gymru heddiw.

Dywedodd J. R. Jones yn graff: “[o] fewn i’r Cymry y mae eu gelyn. Yn llechwraidd yr anrheithir ni, ac megis o’r tu fewn i’n meddyliau ein hunain”. Y syniad o berthyn i ryw genedl Brydeinig yw’r gelyn hwnnw, ac fel y gŵyr pawb a oedodd i feddwl o ddifri am y peth, hunaniaeth Seisnig, a Saesneg yw Prydeindod. Fe ddilyn yn amlwg ddigon felly nad oes lle i’r iaith Gymraeg yn yr hunaniaeth honno, am ei bod yn atgoffâd o gyflwr hŷn, yn atsain o orffennol pell lle nad oedd ‘Prydain’ fel yr adwaenir heddiw yn wladwriaeth ac endid gwleidyddol yn bod.

A chymathu yw nod yr hunaniaeth Brydeinig; dan gochl ‘uno’ pobloedd, gorfodir hwy i gefnu ar eu harwahanrwydd gan fabwysiadu’r hunaniaeth lywodraethol. Yn yr achos hwn, yr iaith Saesneg a diwylliant cwbl Seisnig.

Ond, trwy ryw ryfedd wyrth, mae Cymru fel endid diwylliannol wedi goroesi hyd heddiw. Cofier, hyd at droad yr 1900au siaradodd mwyafrif o boblogaeth Cymru Gymraeg, ac felly y bu ers cychwyn ein hanes cofnodedig. O’r herwydd, ceir bod y bobl a elwir yn Gymry wedi mynegi eu hunaniaeth a’u bodolaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig am bron y cyfan o’u hanes. Yn ein hachos ni, felly, gwir yw geiriau J. R. Jones “bod holl orffennol Pobl wedi ei gronni i’w priod iaith”.

Dyna’r rheswm dros elyniaeth y drefn Brydeinig tuag at yr iaith Gymraeg gyhyd. Tra bo’r iaith Gymraeg, bydd hanes Cymru fel cenedl ar wahân yn fyw. Ond, cyn gynted ag y bo’r iaith yn darfod amdani, fe â’r cyfan yn angof, neu, fan bellaf, byddai’n gysyniad difywyd ac oeraidd, yn ffaith hanesyddol diddorol, a dim mwy. Heb yr iaith, fe gaem ein cymathu â Lloegr ar amrant yn ddiwylliannol, ond fe arhosai ymdeimlad o golled, a byddem yn bobl yr ymylon: Saeson o ran iaith a diwylliant, ond byth yn Saeson neu yn Brydeinwyr derbyniol am fod olion o hyd o’r hyn fuom. Cenedl Gymreig.

Tysteb o’n harwahanrwydd yw’n hiaith― a llawer mwy. Mae’n eto’n iaith fyw ac iaith gyntaf miloedd lawer, wrth gwrs. Rydym yn dal i fod yn coleddu’r freuddwyd dros Gymru rydd oherwydd bod yr iaith Gymraeg.

Gwn fy mod yn pregethu i’r côr i raddau helaeth trwy sgrifennu hwn yn Gymraeg a’i anelu at y Cymry, ond gwnaf felly dim ond oherwydd y bydd unrhyw newid yn dod o du’r bobl Gymreig eu hunain. Ystyrier cyn galeted bu’n rhaid i genhedloedd eraill dan sawdl yr Ymerodraeth Brydeinig frwydro cyn ennill unrhyw fesur o ryddid. Yn ein dwylo ni y mae ein tynged parthed hunanreolaeth, ac ni ellir wrth hynny heb yr iaith Gymraeg.

Mae Morgan Owen yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.