Mae’r Ganolfan ar gyfer Diogelwch Bwyd (CFS) yn Hong Kong wedi gwahardd mewnforio crancod o Sir Fôn oherwydd eu bod “yn cynnwys llygredd metelaidd”.

Dywedodd y ganolfan fod y gwaharddiad yn weithredol ar unwaith gan fod dau sampl o grancod brown o’r ardal gyda lefelau uchel o’r metel, cadmiwm.

Roedd un o’r crancod gafodd eu profi yn cynnwys 15 rhan mewn miliwn (ppm) o cadmiwm a’r llall yn cynnwys 22 ppm. Mae unrhyw beth gyda mwy na 2 ppm yn anghyfreithlon,.

Ychwanegodd y ganolfan y dylai pobl roi’r gorau i fwyta neu werthu’r cynnyrch ar unwaith.

Mae tua 160kg o’r crancod eisoes wedi cael eu dosbarthu ac mae’r CFS wedi gofyn i’r cwmni fewnforiodd y crancod i’w galw nol ar unwaith.

Meddai llefarydd ar ran CFS: “Ni fydd bwyta crancod â’r lefelau hynny o cadmium yn achlysurol yn achosi effeithiau andwyol ar iechyd.

“Fodd bynnag, gall bwyta gormod o gadmiwm yn y tymor hir gael effeithiau andwyol ar yr arennau.” Dywedodd y CFS ei fod wedi hysbysu’r awdurdodau perthnasol y Deyrnas Unedig a bod ei ymchwiliad yn parhau.