Mae Theresa May wedi dweud fod mesurau diogelwch newydd yn dechrau cael effaith yn Calais – ond cyfaddefodd y gallai’r argyfwng ymfudwyr symud i borthladdoedd eraill yn Ewrop.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref fod trafodaethau wedi dechrau gydag awdurdodau yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg wrth iddi fynd i weld ffens ddur gwerth £7 miliwn o amgylch y fynedfa i dwnnel Eurotunnel yn Coquelles.

Dyma’r ymweliad cyntaf gan weinidog yn Llywodraeth y DU i Calais ers i’r argyfwng gwaethygu, ac fe wnaeth Theresa May hefyd arwyddo cytundeb newydd gyda Llywodraeth Ffrainc sy’n cynnwys darparu heddlu o Brydain i weithio ochr yn ochr a heddlu Ffrainc i dargedu gangiau troseddol sy’n masnachu mewn pobl.

Datgelodd Theresa May hefyd bod Prydain wedi dechrau trafodaethau gyda Gwlad Belg a’r Iseldiroedd yng nghanol pryderon y gall gangiau troseddol geisio smyglo mewnfudwyr i’r DU trwy borthladdoedd eraill yn dilyn gwella’r diogelwch yn Calais.

Dywedodd Thersa May fod porthladdoedd Ffrengig eraill fel Dunkirk yn cael eu harchwilio am wendidau hefyd.

Amcangyfrifir fod hyd at 5,000 o ymfudwyr a ffoaduriaid yn Calais ac mae nifer wedi marw tra’n ceisio croesi Sianel i Brydain.