Morgan Owen
Morgan Owen sy’n awgrymu y dylai’r rheiny sydd yn beirniadu’r Gymraeg edrych yn y drych …

Diau fod pawb fydd yn darllen y blogiad hwn yn gyfarwydd â’r hen ddadleuon yn erbyn yr iaith Gymraeg a’r ystrydebau sydd yn codi fel bwganod blin bob tro mae rhywun yn crybwyll y geiriau dychrynllyd… ‘the Welsh language’.

Maen nhw’n amrywio o’r “does neb yn siarad Cymraeg, felly pam trafferthu?” i’r deufeddwl hynod hwnnw: “pam mae’r bobl hurt ‘ma yn siarad iaith farw?!”. Wel, os felly mae hi, rhaid bod ni  siaradwyr Cymraeg yn sombîs i allu siarad yr iaith hon ar dir y byw a hithau dal i fod yn ‘farw’.

Ond at ei gilydd, dyma’r dadleuon gwirion sydd gan amlaf yn sylwadau ffwrdd-â-hi, sarhaus a difeddwl. Dyma sothach y meddwl gwrth-Gymraeg.

Fwy llechwraidd a pheryglus o lawer yw’r honiad bod yr iaith Gymraeg yn annatod ynghlwm wrth genedlaetholdeb Cymreig, ac felly’n rhyw offeryn i’r Cymry hyrwyddo eu diddordebau eu hunain ar draul pawb arall.

Codi bwganod

Pan fo’r gwrth-Gymraeg yn codi bwgan cenedlaetholdeb, maent yn ceisio sefydlu deuoliaeth rhwng Prydeindod (da) a Chymreictod (drwg); yn bur aml, maent yn gwneud hyn yn echblyg ac yn bwrpasol.

Mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn cael eu hunain mewn cyfyng-gyngor yn y fath ddadl, yn enwedig pan fo’r Prydeinwyr yn galw arnynt i gofio am yr hyn rydym wedi ei gyflawni ‘gyda’n gilydd’ fel gwlad, ac yn dannod iddynt am feiddio ‘rhwygo’r deyrnas’. Yn hwyr neu’n hwyrach, byddant yn datgan yn hunan-fodlon ‘Better Together!’.

Yn wir, gall ymddangos yn dipyn o dasg ymateb i’r ddadl honno. Ond, a dyma ond mawr: rhaid yw cofio mai cenedlaetholdeb yw Prydeindod yntau.

Imperialaeth

Mae cenedlaetholdeb Prydeinig wedi’i sylfaenu ar imperialaeth, ac yn y bôn, mae’n feddylfryd trefedigaethol. Dyma’r ideoleg a oedd y tu cefn i ddifa pobloedd a’u hieithoedd a’u diwylliannau ledled y byd.

Edrycher ar hanes yr Iwerddon, er enghraifft. Lladdwyd yr iaith Wyddeleg yna i bob pwrpas, a phan oedd malltod y tatws yn gyfrifol am fethiant y cnwd hwnnw yr oedd cyfran sylweddol o’r boblogaeth yn llwyr ddibynnol arno, allforiwyd bwyd o’r wlad i Brydain pan oedd y werin Wyddelig yn newynu. Bu farw dros filiwn ohonynt.

Yn Affrica, triniwyd y bobl frodorol fel bodau israddol gan fynnu yr oedd eu diwylliannau yn anwar ac yn gyntefig; gorfodwyd felly yr iaith Saesneg a diwylliant Seisnig arnynt. Dyma ond dwy enghraifft allan o gannoedd.

Dyna Brydeindod yn ei hanfod. Mae cenedlaetholdeb Cymreig yn hollol wahanol wrth reswm. Nid ydym yn ceisio disodli diwylliant neb; nid ydym yn mynnu mai’r eiddom ni yw tir neb arall; nid hawlio adnoddau neb arall ydym.

Craidd ein cenedlaetholdeb ninnau yw maentumio ein hawl i reoli ein hunain fel cenedl, ac nid ufuddhau i reolaeth pobl eraill nad ydynt yn poeni dim amdanom ac yn ein trin yn nawddoglyd ac yn watwarus.

Rhagrith

Anodd credu felly sut gall Prydeinwyr ddannod i’r Cymry am siarad eu hiaith eu hunain a choleddu’r awydd i reoli eu hunain, oherwydd yr hyn a wnaeth Brydeindod oedd gorfodi i bobloedd eraill siarad Saesneg ac ildio rheolaeth eu gwledydd i’r Ymerodraeth Brydeinig!

Un o hynodion selogion Prydeindod yw ffromi ynghylch cenedlaetholdeb yr Alban a Chymru ond anwybyddu yn llwyr eu cenedlaetholdeb Prydeinllyd, trefedigaethol eu hunain.

Mae’n rhwystredig dros ben ceisio dangos iddynt pa mor wirion yw’r ddadl, ac anodd ydyw peidio â sgrechain “MAE UNDEBOLIAETH YN GENEDLAETHOLDEB!” am ei bod yn gwadu hawl cenhedloedd bychain y Deyrnas ‘Unedig’ gan orfodi iaith a diwylliant Lloegr arnynt.

Os ydym yn bwrw mai hyrwyddo rhyw wlad benodol yw hanfod cenedlaetholdeb, yna mae hyrwyddo Prydain mewn gwrthgyferbyniaeth â Chymru a’r Alban yn genedlaetholdeb Prydeinllyd.

Ond, a dwyn y llith hon yn ôl i’w phwynt gwreiddiol, pan gaiff cenedlaetholdeb ei lusgo i mewn i’r ddadl yn erbyn yr iaith Gymraeg, mae’n werth atgoffa’r casawyr bod dweud wrth bobl y dylent ddim siarad eu hiaith eu hunain, ac ymhellach y dylent siarad iaith un o ymerodraethau ffieiddiaf hanes a wnaeth ddifa ieithoedd a diwylliannau ledled y byd yn enghraifft o’r union fath o genedlaetholdeb dinistriol y maent yn ei geisio ei briodoli i’r Gymraeg.

Mae Morgan Owen yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.