LLwybr yr Arfordir
Dylai’r cwymp yn ffigyrau twristiaeth Cymru ar gyfer dechrau’r flwyddyn fod yn “destun pryder” i Lywodraeth Cymru, yn ôl aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae’r ffigyrau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos cwymp o 4% yn nifer y bobol wnaeth ymweld â Chymru yn ystod deufis cyntaf 2015, o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Fe wnaeth 6% yn fwy o bobol ymweld â Chymru dros nos, ond mae’r ffigwr yn cymharu’n wael a gweddill Prydain – lle gwelwyd cynnydd o 16% yn Lloegr, a 18% ym Mhrydain gyfan.
“Am genedl sydd a dau Safle Treftadaeth a thri Pharc Cenedlaethol, mae Cymru yn methu’n ddifrifol i ddenu ymwelwyr,” meddai Eluned Parrott o’r Democratiaid Rhyddfrydol.
“Er y rhybuddion, mae’n amlwg nad oes llawer o gydweithio rhwng Visit Wales a Visit Britian wedi digwydd sy’n destun pryder.
“Mae angen mwy o bwyslais ar bresenoldeb Cymru mewn marchnad gystadleuol iawn.”
Fe wnaeth yr Aelod Cynulliad hefyd alw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy o ddenu pobol fusnes ar ymweliadau.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb y Llywodraeth.