Mae Ofcom yn asesu mwy na 200 o gwynion am Britain’s Got Talent yn dilyn datgeliad bod yr enillydd wedi cyfnewid un ci am un arall yn ystod y ffeinal.
Daeth Jules O’Dwyer yn gyntaf yn y gystadleuaeth, gan ennill £250,000 a chyfle i berfformio o flaen y Frenhines yn y Royal Variety Performance eleni.
Fe wnaeth yr hyfforddwr ci tywys, a gurodd Côr Glanaethwy a’r consuriwr Jamie Raven, ddod i’r brig gyda sgets oedd yn cynnwys ei chi, Matisse.
Erbyn hyn, mae hi wedi dod i’r amlwg fod un darn o’r sgets, pan oedd y ci’n cerdded rhaff, wedi cael ei wneud gan gi gwahanol, Chase, oherwydd nad yw Matisse yn hoffi uchder.
Mae cynhyrchwyr y sioe wedi ymddiheuro am beidio ei gwneud yn gliriach i wylwyr – yn ogystal â’r beirniaid – fod ci oedd yn edrych yn debyg i Matisse yn cael ei ddefnyddio i gerdded y rhaff.
Yn dilyn y cwynion, bydd Ofcom nawr yn penderfynu a ddylid ymchwilio ymhellach i’r digwyddiad.
Dywedodd Jules O’Dwyer ei bod hi wedi cael ei synnu gan ymateb y gwylwyr. Meddai ei bod hi wedi ceisio creu stori a fyddai’n gyffrous i’r gwylwyr.