Gwenllian Elias
Mae’r newyddiadurwyr profiadol a’r darlledwr gwleidyddol Guto Harri wedi gofyn pam nad oes yr un Aelod Seneddol o Gymru wedi dangos diddordeb mewn arwain y blaid Lafur yn dilyn ymddiswyddiad Ed Miliband. Mewn cyfweliad â golwg360, mae hefyd yn dweud ei ddweud am y diffyg sbarc yng ngwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd yn ogystal â chondemnio arferion pleidleisio pobol Cymru…
Sut ydach chi’n teimlo am wleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd a’r ffaith nad oes yr un AS o Gymru wedi cynnig eu henwau i arwain y blaid Lafur?
“Mae’n gwestiwn amlwg – Cymru yw unig gadarnle’r blaid Lafur bellach. Mae Llafur wedi colli ei le yn yr Alban yn llwyr, mae wedi bod yn wan yn Lloegr oni bai am ddinasoedd mawr y gogledd a Llundain, ond mae Cymru mor Llafur ag erioed.
“Mae’n adlewyrchiad trist ar sefyllfa’r blaid Lafur Gymreig o fewn y blaid Brydeinig bod ei chyfraniad hi mor ymylol.
“Mae dau beth wedi’n nharo fi erstalwm – mae Cymru wedi pleidleisio’n ufudd i’r blaid Lafur ers dros ganrif. Yn y gorffennol, mae Cymru wedi rhoi tri arweinydd, un ar ôl y llall, i’r blaid Lafur – Jim Callaghan, Michael Foot a Neil Kinnock.
“Pan ddaeth Tony Blair yn ôl i rym, peth truenus oedd mai dim ond dau aelod o Gymru gyrhaeddodd gabinet Llafur yn y cyfnod yna. Er gwaethaf canrif o bleidleisio ufudd, dyw Cymru ddim wedi cynhyrchu lot o fawrion.
“A nawr bod y blaid yn cynnal gornest am yr arweinydd nesaf, onid yw’r unig gadarnle sydd gyda nhw wedi cynhyrchu un ymgeisydd?
“Os yw pobol yn mynd i mewn i wleidyddiaeth, oni ddylen nhw fod ag uchelgais? Pam mynd i mewn i wleidyddiaeth er mwyn bod yn back-bencher?
“Mae pobol Cymru yn eu gyrru nhw i San Steffan dro ar ôl tro ac mae angen cwestiynu os ydyn nhw’n haeddu’r fath deyrngarwch. Beth maen nhw’n rhoi yn ôl? Faint o lais maen nhw’n ei roi i bobol Cymru?”
Pa ASau yr hoffech chi weld yn cynnig eu henwau i’r arweinyddiaeth?
“Dwi ddim yn berson Llafur felly ddim am gynnig enwau pendant – ond fe ddylid holi pam nad yw Owen Smith yn y ras. Mae e ar fainc flaen y blaid Lafur.
“Chwarae teg i Steven Kinnock, newydd gael ei ethol mae e – falle maes o law fydd e’n dangos yr un uchelgais a’i dad.
“Mae Kevin Brennan yn aelod cydwybodol, deallus o’r blaid sydd ar y fainc flaen ac mi faswn i’n disgwyl, tase ‘na Llywodraeth Lafur nawr, y base fe’n weinidog.
“Ond mae’n rhaid cwestiynu pam fod pobol sydd wedi bod yn cynrychioli etholaethau Cymreig ers dros 20 mlynedd wedi gwneud cyn lleied o argraff – fel nad ydyn nhw’n deilwng, neu ddim hefo cyfle i fynd amdani.”
Pam fod pobol Cymru yn parhau i ethol yr un hen wynebau?
“Mae disgwyliadau Cymru mor isel – rydym ni’n dal i ethol yr un ASau pan nad ydan ni wedi cael yr un Oes Aur a gafodd yr Alban.
“Er gwaetha’r ffaith bod Llafur wedi delifro cyn lleied i Gymru, mae’r bobol sydd hefo diffyg dychymyg, wmff, aeddfedrwydd a chyffro gwleidyddol yn dal i bleidleisio Llafur.
“Mae ‘na rywbeth o’i le ar ein gwleidyddiaeth ni ac rwy’n credu bod y ffaith nad oes yr un Cymro yn y ras am yr arweinyddiaeth yn sgandal.”
Pam nad oedd fawr ddim o newid o ran y patrwm pleidleisio yng Nghymru, o’i gymharu â’r Alban a Lloegr?
“Dwi wedi difaru erioed bod gwleidyddiaeth Cymru mor llipa.
“Mae pobol yn pleidleisio bron yn ddi-gwestiwn, dro ar ôl tro, i’r un blaid ac mae gennym ni’r peth agosaf mewn cymdeithas ddemocrataidd war i wladwriaeth un- blaid yng Nghymru.
“Mae gwladwriaethau un-bleidiol yn tueddu i fod yn rhai sydd ar y gwaethaf, yn llygredig, ond ar eu gorau yn ddiymadferth ac yn llipa. Os nad oes posibilrwydd fod plaid yn colli ei lle – dyw hi ddim ar flaenau ei thraed.
“Os nag yw hi ar flaenau ei thraed, dyw hi ddim yn gweithredu mor effeithiol ag y dyle hi. Ac yn anffodus dwi’n dod i’r casgliad hynny am natur gwleidyddiaeth Cymru dro ar ôl tro.
“Mae’n wir am y Cynulliad ond mae e hefyd yn wir am San Steffan. O dan Lywodraeth Lafur diwethaf Tony Blair, roedd ’na griw aruthrol o wleidyddion o’r Alban. Ond maen nhw rŵan wedi taflu bron pob aelod Llafur allan o’r wlad.”
Pa newidiadau fyddech chi’n hoffi eu gweld yn y tymor gwleidyddol nesaf sydd i ddod?
“Mae cyfrifoldeb ar y blaid Lafur i unioni eu beiau neu mae’n rhaid i’r bobol ofyn i’w hunain – a ydyn nhw’n haeddu gwell na’r blaid yma maen nhw wedi bod mor deyrngar iddi.
“Faswn i’n meddwl y byddai pitch Llafurwr o Gymru yn eithaf cryf nawr. Dyw cangen yr Alban ddim yn gwybod beth yw’r ateb – maen nhw newydd gael eu chwalu, dyw cangen Lloegr ddim yn gwybod beth yw’r ateb am eu bod nhw newydd golli llwyth o seddi. Ond mae cangen Cymru’n gwybod sut mae siarad â’r etholwyr am eu bod nhw wedi bod mewn grym yn ddi-dor ers datganoli.
“Ond er gwaethaf y trac record yna does neb yn sefyll allan.”