Simon Glyn
Mae tri o gynghorwyr Llais Gwynedd, gan gynnwys Simon Glyn, wedi ymuno â Phlaid Cymru ar y cyngor sir.

Fe gadarnhaodd Simon Glyn wrth golwg360 heddiw ei fod o, Gweno Glyn a Gruffydd Williams wedi ymuno â grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd.

Mae hynny’n golygu bod gan Blaid Cymru 38 o’r 75 cynghorydd ar Gyngor Gwynedd, ac felly nawr â mwyafrif, gyda nifer Llais Gwynedd yn disgyn i 10.

Ond fe allai’r nifer hwnnw newid gan fod Liz Saville Roberts yn camu lawr i gymryd ei lle fel Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionydd yn San Steffan.

Dywedodd Simon Glyn bod y tri aelod wedi gadael Llais Gwynedd ar “delerau da”, ond bod eu “siwrne” gyda’r blaid “wedi dod i ben”.

Symud nôl

Roedd Simon Glyn yn gyn-gynghorydd Plaid Cymru yn ward Tudweiliog cyn gadael y blaid yn 2007 ac ennill y sedd dros blaid newydd Llais Gwynedd.

Cyn hynny roedd wedi canfod ei hun mewn ffrae yn 2001 ar ôl iddo wneud sylwadau yn dweud y dylid cyfyngu ar y nifer o fewnfudwyr o Loegr oedd yn symud i ardaloedd fel Gwynedd.

Llynedd fe gyhoeddodd Simon Glyn y byddai’n sefyll fel ymgeisydd Llais Gwynedd yn Nwyfor Meirionydd ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2016, gan ddweud bod pobl “wedi cael digon o’r prif bleidiau” ac eisiau “llais annibynnol”.

Ond mae’r cynghorydd dros ward Tudweiliog wedi cadarnhau ei fod wedi ailymuno â Phlaid Cymru ynghyd â’r ddau gynghorydd arall, Gweno Glyn (Botwnnog) a Gruffydd Williams (Nefyn).

Leanne ffactor?

Dywedodd Simon Glyn bod cyfeiriad Plaid Cymru o dan arweinyddiaeth Leanne Wood wedi chwarae rhan yn eu penderfyniad, a’u bod yn teimlo y gallan nhw gyflawni mwy dros genedlaetholdeb drwy adael Llais Gwynedd.

“Roedden ni’n gweld bod yna gyfeiriad gwleidyddol mwy effeithiol i ni fel rhan o Blaid Cymru yn yr hinsawdd sydd ohoni ar hyn o bryd,” meddai Simon Glyn wrth golwg360.

“Mae’r tri ohonom ni’n gwerthfawrogi beth mae Leanne Wood wedi bod yn ei wneud yn ystod yr etholiad ac rydan ni’n gefnogol iawn o’r cyfeiriad newydd o fewn y blaid a ‘da ni’n credu y gallwn ni wneud cyfraniad at hynny.

“Ond nid dyna’r unig ffactor – rydan ni’n tri yn teimlo fel cenedlaetholwyr y medrwn ni wneud mwy o wahaniaeth yn gweithio o fewn Plaid Cymru.”

Cyfarfod Llais Gwynedd

Mae’r tri ohonyn nhw eisoes wedi cyfarfod wyneb yn wyneb ag aelodau Llais Gwynedd y bore yma i esbonio eu penderfyniad i adael.

“Rydan ni wedi gadael ar delerau adeiladol a da iawn, does dim drwgdeimlad a neb wedi ffraeo,” ychwanegodd Simon Glyn.

“Rydan ni wedi esbonio’n rhesymau ac ysgwyd llaw gyda’n cyd-aelodau cyn gadael y bore yma.

“Does yna ddim beirniadaeth o gwbl o fecanwaith Llais Gwynedd. Roedden ni’n teimlo bod mecanwaith Llais Gwynedd ar un adeg yn gyfrwng effeithiol i herio’r drefn, ond mae’n siwrne ni gyda Llais Gwynedd wedi dod i ben.”

Croeso gan Dyfed

Wrth estyn croeso i’r tri aelod newydd dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, bod angen i’r cyngor baratoi am ragor o doriadau i awdurdodau lleol dros y blynyddoedd nesaf.

“Yn ein cyfarfod grŵp gwleidyddol cyn cyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd heddiw, croesawodd Cynghorwyr Plaid Cymru yn unfrydol y tri chynghorydd i ymuno a’r grŵp,” meddai Dyfed Edwards.

“Dyma gyfnod tyngedfennol i ni yng Nghymru wedi’r Etholiad Cyffredinol ac mae’n galw am undod. Rydym yn wynebu Llywodraeth Geidwadol yn llywodraethu ar lefel y DU ar y llwyfan gwleidyddol dros y cyfnod nesaf.

“Rydym yn parhau i fod yn gadarnhaol yma yng Ngwynedd ac yn genedlaethol yng Nghymru. Plaid Cymru yw’r blaid sydd â’r uchelgais wrth gynrychioli pobl Cymru a’u gwerthoedd yn effeithiol. Ein nod yw gweithio fel Tîm Gwynedd i greu Gwynedd ffyniannus a chyffrous lle bydd cenhedlaeth y dyfodol yn gallu byw a gweithio.”