Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi rhybuddio yn erbyn cynnal refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ar yr un diwrnod ag Etholiad y Cynulliad yng Nghymru.
Dywedodd Stephen Crabb bod “risg” o ddrysu pleidleiswyr os byddai’r ddau yn digwydd ym mis Mai’r flwyddyn nesaf.
Mae David Cameron wedi datgan y bydd refferendwm mewn/allan ar aelodaeth Prydain yn Ewrop yn cael ei gynnal cyn diwedd 2017.
Y gred yw bod Downing Street yn cynllunio i ddod a’r dyddiad ymlaen o flwyddyn i 2016.
Drwy wneud hynny fe fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn osgoi gwrthdaro gydag etholiadau Ffrainc a’r Almaen yn 2017.
‘Risg’
Gofynnwyd i Stephen Crabb a ddylai Etholiad y Cynulliad a refferendwm ar Ewrop ddigwydd ar yr un diwrnod.
“Rwy’n meddwl, mwy na thebyg, ei fod yn beth iach i warchod etholiadau’r Cynulliad gan sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu cymysgu gydag ymgyrchoedd etholiadau eraill sy’n digwydd ar yr un pryd,” meddai Stephen Crabb, Aelod Seneddol Preseli Penfro.
“Rydym eisiau pobol yng Nghymru i ddeall beth yn union yw datganoli a beth yw’r materion mewn ymgyrch Etholiad y Cynulliad.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru: “Y risg yw os ydych chi’n cyfuno hynny gydag etholiad arall ar yr un diwrnod bod y materion yn cael eu taflu i’r cysgod ac na fyddai pobol yn glir ynghylch beth yn union yw’r materion sydd yn y fantol yn yr etholiad hwnnw.”
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi bod yn cwrdd a Carwyn Jones heddiw. Dywedodd ei fod am ddefnyddio’r cyfarfod i drafod ffyrdd o gyd-weithio i ddenu buddsoddiad i Gymru a rhoi cymorth i fusnesau i greu rhagor o swyddi.
Stori: Gareth Pennant