Mewn trafodaeth â Golwg360, Dr Simon Brooks sy’n manylu ar ei sylwadau ynghylch methiant Plaid Cymru i apelio at genedlaetholwyr ar bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol, fel y gwna’r SNP yn yr Alban.

“Dw i’n credu bod ’na wahaniaeth pwysig rhwng Plaid Cymru a’r SNP, sef sut maen nhw’n ymwneud hefo’r ‘Chwith Brydeinig’. Mae’r SNP, er ei bod hi’n blaid sydd ar y chwith, yn croesawu o’i mewn, genedlaetholwyr sy’ ddim yn sosialwyr. Felly mae ’na ambell i ymgeisydd cenedlaetholgar yn yr Alban sy wedi cael ei ethol i gynrychioli’r SNP, ac maen nhw yn San Steffan nawr, sy wedi bod yn aelodau’r Blaid Geidwadol yn y gorffennol. Mae’n blaid adain chwith achos dyna ydi dymuniad y mwyafrif o aelodau, ond mae’n ymestyn i bobol sy’ ddim yn chwith yn unig. Mae’n apelio atyn nhw. Mae’n gallu cynnwys y tir canol a hefyd, mae ganddi rywfaint o gefnogaeth ar y canol-dde.

Yn achos Plaid Cymru, mae hi wedi diffinio’i hun fel plaid sosialaidd mewn ffordd neilltuol iawn. Dyw hi ddim yn barod i groesawu cefnogaeth gan bobol sy’ ddim yn sosialwyr. Mae hynny, wrth reswm, yn cyfyngu’r apêl sy’ gan genedlaetholdeb Cymreig yng Nghymru oherwydd dydy hanner y boblogaeth yng Nghymru ddim yn sosialwyr. O’r cychwyn, felly, mae Plaid Cymru, y tu allan i’r ardaloedd Cymraeg lle mae’n cael ei chefnogi gan siaradwyr Cymraeg o bob math o gefndiroedd, wedi cyfyngu ei hapêl fel rhyw fath o fersiwn Gymraeg, os liciwch chi, o’r Blaid Werdd. Dw i’n meddwl bod hynny’n gamgymeriad.

Dw i ddim yn dadlau na ddylai Plaid Cymru fod yn blaid ar y chwith, mi ddylsai hi fod ar y chwith. Dyna ddymuniad y rhan fwyaf o’i haelodau. Ond mae’n gorfod gwneud mwy, dw i’n meddwl, i apelio at bobol sy’ ddim ar y chwith os ydy hi wir eisiau bod yn fudiad cenedlaethol nerthus fel yr SNP. Mae’n gorfod dweud yn blwmp ac yn blaen bod yna groeso i bobol ym Mhlaid Cymru sydd efallai wedi cefnogi’r Lib Dems yn y gorffennol, sydd efallai yn y gorffennol wedi cefnogi adain chwith genedlaetholgar y Blaid Geidwadol. Dydy Plaid Cymru ddim wedi medru gwneud hynny o gwbl. Dyna dw i’n gweld fel y gwahaniaeth mawr rhwng Plaid Cymru a’r SNP.

Y Chwith Brydeinig

Ymhellach, dw i’n meddwl bod y Blaid, ar adegau, wedi bod yn rhy agos at y ‘Chwith Brydeinig’. Mae ’na baradocs yn hyn oll i gyd. Trwy fod rhywun yn ceisio bod yn fwy ‘Llafur’ na’r Blaid Lafur, sef strategaeth Plaid Cymru o ran cipio’r Cymoedd, mae rhywun yn medru ymddangos yn debyg iawn i’r Blaid Lafur. Mae ’na baradocs yna. Wedyn, yn rhywle fel y Cymoedd, dw i’n meddwl pan fo pobol yn anhapus gyda’r Blaid Lafur yn wynebu dewis rhwng pleidleisio dros Blaid Cymru neu bleidleisio dros UKIP, mae UKIP yn ymddangos yn fwy gwahanol i’r traddodiad Llafur na Phlaid Cymru, wedyn mae pleidleisiau’n mynd i UKIP.

Mae angen i Blaid Cymru feddwl yn galed iawn am ddau beth. Yn gyntaf, beth yw natur eu perthynas â’r ‘Chwith Brydeinig’? Dw i’n meddwl bod hynny’n hollbwysig. Ydyn nhw’n rhy agos at y ‘Chwith Brydeinig’? Dw i’n meddwl eu bod nhw. Dw i’n meddwl bod angen ystyried hynny.

Yr ail beth dw i’n meddwl fod rhaid i Blaid Cymru ei wneud ydy gofyn iddyn nhw eu hunain, ‘Ydyn ni’n mynd i barhau’n blaid adain chwith, achos dyna ddymuniad ein haelodau, ond sut allwn ni bwysleisio bod ’na groeso i bobol sy’ ddim yn sosialwyr i gefnogi’r Blaid hefyd? Oherwydd maen nhw’n hanner poblogaeth Cymru. Mi ddylsai mudiad cenedlaethol Cymreig fod yn ceisio apelio at fwy na hanner poblogaeth Cymru. Mi ddylsen nhw geisio apelio at bob rhan o’r gymdeithas Gymreig. Dydy Plaid Cymru, oherwydd eu safbwynt sosialaidd, ddim yn medru gwneud hynny ar hyn o bryd.

Cenedlaetholdeb Saesneg

Yn amlwg, mae cenedlaetholdeb Saesneg wedi codi ei ben yn Lloegr ond mae cenedlaetholdeb Saesneg wedi mynd i’r Blaid Geidwadol, ac nid i UKIP. Dw i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth i’w groesawu i ddweud y gwir. O gael y dewis i ble fyddai pleidlais genedlaetholgar Saesneg yn mynd, i’r Blaid Geidwadol neu i UKIP, mae’n well ei bod hi’n mynd i’r Blaid Geidwadol na’i bod hi’n mynd i blaid mor adain dde ag UKIP. Dw i’n meddwl bod UKIP, maes o law, yn mynd i wanhau yng ngwledydd Prydain ac yn y cyd-destun Cymreig hefyd.

Mi fydd ethol y Blaid Geidwadol yn cyflymu’r broses o ddatgymaliad cyfansoddiadol yng ngwledydd Prydain. Mi fuasai ethol y Blaid Lafur a wedyn cael rhyw fath o glymblaid ffurfiol neu ryw fath o gytundeb anffurfiol rhwng y Blaid Lafur a phleidiau cenedlaethol yr SNP a Phlaid Cymru – waeth beth oedd Miliband yn ei ddweud, mi fuasai fo wedi gorfod gwneud – wedi cadw’r Deyrnas Gyfunol ynghyd am gyfnod llawer mwy na’r hyn fydd yn digwydd yn awr bod llywodraeth Geidwadol wedi cael ei hethol. Felly o safbwynt cenedlaetholdeb Celtaidd yn y gwledydd hyn, fuasech chi’n medru taeru mai llywodraeth Geidwadol ydi’r ffordd gyflymaf, y ffordd rwyddaf os liciwch chi, tuag at gyflawni’r hyn y mae cenedlaetholwyr Celtaidd wedi bod yn ei chwennych ers degawdau, sef chwalfa’r Deyrnas Gyfunol.”