Y difrod wedi daeargryn
Mae apêl i gasglu arian ar gyfer pobol yn Nepal sydd wedi’u heffeithio gan y daeargryn enfawr bellach wedi cyrraedd £50 miliwn.
Cafodd bron i wyth miliwn o bobol eu heffeithio pan wnaeth y daeargryn nerthol daro’r wlad ar 25 Ebrill gan ladd o leiaf 8,000 o bobol.
Ers hynny, mae’r Pwyllgor Argyfyngau Prydeinig (DEC) wedi agor llinellau ffon arbennig i gasglu arian ac mae’r cyfraniadau wedi medru helpu 310,000 o bobol mewn dros 60 o bentrefi gwahanol.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am haelioni anhygoel y cyhoedd Prydeinig,” meddai prif weithredwr Pwyllgor DEC Saleh Saeed.
“Rydym nawr yn darparu mwy o gymorth i rai o’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio fwyaf ac mae ein haelodau yn ehangu eu hymdrechion.”
Mae pryder y bydd y tymor gwlyb sydd ar y ffordd i Nepal yn creu mwy o drafferthion i dimau achub.