Harriet Harman
Mae arweinydd dros dro’r Blaid Lafur, Harriet Harman, wedi cyhoeddi cabinet newydd yr wrthblaid heddiw, gan lenwi’r bylchau a adawyd gan ganlyniad trychinebus y blaid yn yr Etholiad Cyffredinol.

Bydd Chris Leslie yn cael ei ddyrchafu i fod yn ganghellor yr wrthblaid yn lle Ed Balls, a gollodd ei sedd yn Morley ac Outwood ddydd Iau.

Ac mae Hilary Benn yn symud oddi wrth lywodraeth leol i fod yn ysgrifennydd tramor yr wrthblaid, gan gymryd lle Douglas Alexander a gollodd ei sedd i Mhairi Black, myfyrwraig 20 mlwydd oed o’r SNP yn yr Alban.

Mae Emma Reynolds yn cymryd lle Hilary Benn fel  ysgrifennydd cymunedau’r wrthblaid – un o 14 o ferched o’r 29 o ASau fydd naill ai’n aelodau o gabinet Harriet Harman neu a fydd yn mynychu cyfarfodydd  y cabinet.