Syr Alan Sugar
Mae seren y rhaglen The Apprentice, yr Arglwydd Sugar, wedi cyhoeddi ei fod yn gadael y Blaid Lafur.
Dywedodd Syr Alan Sugar bod y blaid wedi derbyn ei ymddiswyddiad ac wedi bod yn “ymwybodol o fy nadrithiad ers peth amser.”
Ychwanegodd ei fod wedi colli hyder yn y Blaid Lafur dros y 12 mis diwethaf oherwydd y “polisïau busnes negyddol” roedden nhw’n bwriadu eu cyflwyno petai Ed Miliband wedi cael ei ethol yn Brif Weinidog.
Cafodd ei ethol yn arglwydd gan y cyn Lywodraeth Lafur yn 2009. Dywedodd y bydd yn parhau yn Nhŷ’r Arglwyddi er mwyn cynrychioli buddiannau busnes a menter yn y DU.