Mark Rosenthal
Jamie Thomas sydd wedi bod yn sgwrsio â Mark Rosenthal o’r Democratiaid Rhyddfrydol, y pedwerydd mewn cyfres o erthyglau i golwg360 yn holi’r ymgeiswyr yn ras etholiadol Ynys Môn …

Nid prif uchelgais y Democratiaid Rhyddfrydol yn Ynys Môn ydi cipio’r sedd oddi ar Albert Owen a Llafur, yn ôl eu hymgeisydd nhw Mark Rosenthal.

Dyw’r blaid heb ennill sedd Môn ers 1950, ac fe gyfaddefodd Mark Rosenthal mai ceisio newid y ffaith bod yr ynys wedi bod heb bresenoldeb cryf gan y Democratiaid Rhyddfrydol ers cyfnod hir oedd y nod.

“Dydi’r ffaith mod i’n sefyll ddim yn golygu mai fy mhrif amcan ydi i ennill y sedd,” cyfaddefodd Mark Rosenthal.

“Wrth gwrs dw i eisiau ennill ond, yn fy marn i, os ydych yn edrych ar hanes mae llwyddiant yn dod o feithrin gallu.

“Rydw i’n ceisio adeiladu rhywfaint o adnoddau i’r blaid ar yr ynys. Ein her fawr nesaf, wrth gwrs, yw etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf, ac rydyn ni’n gobeithio cael grŵp mwy ar yr ynys i ddechrau gwneud pethau.

“Mae’n anodd iawn i gynnal ymgyrch ar gyllideb gyfyngedig, heb fod yn sedd darged ac yn y blaen, felly mae’r ymgyrch hon i ni yn ymwneud â meithrin gallu tuag at y dyfodol.”

‘Yr ynys angen newid’

Dim ond unwaith yn hanes yr ynys y mae Aelod Seneddol sydd yn ceisio ailennill y sedd wedi methu â gwneud hynny.

Ond mae Albert Owen o’r Blaid Lafur wedi meddiannu’r sedd ers 2001 ac mae Mark Rosenthal yn credu ei bod hi’n amser am newid.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bryd cael newid ar yr ynys, oherwydd rydyn ni wedi bod yn y sefyllfa hon ers tri thymor ac rydyn ni’n dal i fod yn un o’r economïau tlotaf yn y wlad – does dim digon wedi cael ei wneud,” mynnodd ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Cyfaddefodd, fodd bynnag, nad oedd yn beio Albert Owen yn uniongyrchol am y problemau hynny.

“Y broblem yw, a yw’r holl fai ar yr AS presennol neu a yw’n ymwneud â sut mae datganoli wedi gweithio?” holodd Mark Rosenthal.

“Mae’n gwestiwn anodd iawn i’w hateb, ond dw i’n meddwl ei bod hi’n bryd cael newid.

“Yn bersonol dw i’n hoffi Albert, dw i’n meddwl ei fod o’n ddyn canmoladwy. Dw i’n anghytuno ag o ar rhai pethau wrth gwrs, fel hyrwyddo’r hyn y mae’n credu sydd yn gynrychiolaeth o ddiwylliant a hanes Ynys Môn.”

Manteisio ar hanes yr ynys

Yn ôl Mark Rosenthal, mae angen i bwy bynnag sydd yn ennill yr etholiad ar Ynys Môn ymrwymo i hyrwyddo hanes cyfoethog yr ynys er mwyn hybu datblygiadau twristaidd.

“Mae llawer iawn o hanes yma – pob math o bethau cyffrous y gallwn ni fod yn siarad amdanyn nhw, ac rydyn ni’n methu,” meddai.

“Cymerwch GeoMon [teithiau cerdded ar hyd arfordir yr ynys], caffaeliad mawr sy’n brwydro i gael arian – mae hynny’n dweud y cyfan sydd angen ei ddweud mewn gwirionedd.

“Does gennym ni ddim y cyllid ar gyfer seilwaith da, does gennym ni ddim cyllid twristiaeth dda yma. Os edrychwch chi ar wefan VisitWales, mae’r rhan fwyaf o atyniadau yn y de ac ychydig iawn yn y gogledd.”

Cynt mynd i Lundain

Fe ategodd Mark Rosenthal deimladau nifer o wleidyddion a phobl leol bod gormod o dueddiad wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf i fuddsoddi yn rhai o brif ddinasoedd Prydain yn lle ar draws ranbarthau cyfan.

“Dw i’n credu mai un o’r prif broblemau gyda’r ffordd mae pethau’n cael eu rhedeg ar hyn o bryd yw bod dinasoedd mawr y DU yn cymryd cyfran sylweddol o fuddsoddiad, a dyna pam dw i eisiau galw am wella’r seilwaith trafnidiaeth,” mynnodd ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Os ydyn ni’n mynd i fynnu cael y senedd yng Nghaerdydd, yna fe ddylen ni gael cysylltiadau trafnidiaeth dda o fan hyn i fanno.

“Mae’n gyflymach i fynd i Lundain o fan hyn nag i Gaerdydd – sut mae hynny’n iawn?”

Bydd Jamie Thomas yn siarad â’r holl ymgeiswyr eraill yn etholaeth Ynys Môn yn ystod yr ymgyrch.

Gallwch ddarllen ei sgwrs â’r ymgeisydd UKIP Nathan Gill yma, ei sgwrs â’r ymgeisydd Ceidwadol Michelle Willis yma, a’i sgwrs ag ymgeisydd Plaid Cymru John Rowlands yma.