Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru heddiw wedi cyhoeddi pum deddf newydd y byddai’r blaid yn eu cyflwyno i warchod yr amgylchedd.
Mae’r deddfau gwyrdd yn cwmpasu newid yn yr hinsawdd, gwastraff, natur, ynni a chartrefi cynnes ac yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae gan bob un berthnasedd penodol ar gyfer cartrefi a busnesau Cymru.
Y pum mesur gwyrdd gafodd eu hamlinellu yw:
• Mesur di-garbon: Mae’r blaid eisiau gosod targed i wneud y DU yn ddi-garbon erbyn 2050 drwy gefnogi cryfderau adnewyddadwy sydd yng Nghymru.
• Mesur Dim Gwastraff: Byddai’r mesur yma’n yn gweld cynhyrchion yn cael eu cynllunio i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd a gwastraff yn cael ei drin fel adnodd ar gyfer budd economaidd pellach.
• Mesur Adeiladau Gwyrdd: Bydd yn caniatáu i Ofgem helpu aelwydydd Cymru sy’n cysylltu â rhwydweithiau gwresogi, gan roi mwy o hyder i bobl wneud y newid. Byddai Banc Buddsoddi Gwyrdd hefyd yn cael ei sefydlu i gefnogi mentrau gwresogi cymunedol ac insiwleiddio.
• Mesur Natur: Byddai’n helpu i ddiogelu bioamrywiaeth, gyda darpariaeth newydd ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys sefydlu gwarchodfa forol De’r Iwerydd.
• Mesur Trafnidiaeth Werdd: Byddai’n ei gwneud hi’n ofynnol i bob bws a thacsi newydd fod ag allyriadau isel o 2030 ymlaen, a bod rhaid i bob car ar y ffordd fod o’r un safon erbyn 2040.
‘Hanfodol’
Dywedodd Roger Williams, ymgeisydd seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed: “O ddiwrnod cyntaf y Senedd nesaf, bydd gennym ein hymrwymiadau gwyrdd ar y bwrdd. Mae’r rhain yn hanfodol er mwyn adeiladu cymdeithas decach.”