Plant Ysgol Llandybie gyda'r gadwen 'loom bands'
Bu ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin yn treulio’r diwrnod yn creu cadwyn 311metr o fandiau rwber loom bands, fel rhan o ymgyrch i dorri record byd a chefnogi elusen ganser.
Cafodd ymgyrch Loom To The Moon ei hysbrydoli gan y bachgen pum mlwydd oed, Skye Hall, o Rydychen, cyn iddo farw o diwmor ar yr ymennydd ym mis Awst y llynedd.
Y bwriad yw creu’r gadwen loom bands fwyaf yn y byd gyda chymorth gan blant a phobol ledled Prydain a chodi pres ar gyfer elusen Blue Skye Thinking.
Fe wnaeth disgyblion Ysgol Gynradd Llandybie ger Rhydaman, Sir Gar ychwanegu at y gadwyn, sydd bellach yn mesur 25,693m.
Codi ymwybyddiaeth
“Bob blwyddyn, mae’r ysgol yn dewis sawl achos da i gefnogi, ac i wneud y plant yn ymwybodol bod rhai plant mewn angen,” meddai pennaeth yr ysgol Lee James.
“Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr ac fe wnaeth y plant fwynhau mas draw. Ar ben hynny, roeddem ni’n ymwybodol iawn o pam ein bod ni’n rhan o’r ymgyrch.”
Bydd yr ymgyrch yn dod i ben ym mis Mai.