Y Llyfrgell Genedlaethol
Daeth cadarnhad mai cwmni PriceWaterhouseCooper fydd yn arwain adolygiad annibynnol i bolisi disgyblu’r Llyfrgell Genedlaethol.

Cafodd yr adolygiad ei sefydlu wedi i ddau aelod o staff fynd â’r Llyfrgell i dribiwnlys ar ôl iddyn nhw gael eu diswyddo.

Cafodd Elwyn Williams ac Arwel ‘Rocet’ Jones eu diswyddo wedi iddyn nhw gael eu disgyblu am gyfres o gamgymeriadau wrth drafod cytundeb gyda chwmni preifat.

Galwodd Arwel ‘Rocet’ Jones am gynnal adolygiad annibynnol yn dilyn yr achos.

Dywedodd Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Syr Deian Hopkin, a oedd wedi cytuno i’r adolygiad: “Pwrpas yr adolygiad yw asesu’n feirniadol y prosesau a’r penderfyniadau a wnaed gan staff y Llyfrgell a gan y rhai a gynrychiolai’r sefydliad a arweiniodd at Ddyfarniad Gohiriedig y Tribiwnlys a ddyfarnodd o blaid y ddau hawlydd.”

Mae disgwyl i PriceWaterhouseCooper gyflwyno canlyniadau’r adolygiad a’u hargymhellion i Fwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell Genedlaethol ym mis Gorffennaf.

Bydd yr adolygiad yn:

–          Cloriannu’r dyfarniad a barn y Barnwr Cyflogaeth gan roi sylw penodol i weithdrefnau’r Llyfrgell ac i ymddygiad ei swyddogion.

–          Asesu ymchwiliadau’r Llyfrgell a’r modd y cafodd ei pholisi disgyblu ei ddehongli a’i weithredu gan yr uned Adnoddau Dynol a’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd.

–          Asesu ymddygiad y Llyfrgell yn ystod y broses a arweiniodd at yr achos tribiwnlys ac yn ystod y gwrandawiad ei hun.

–          Edrych ar y cyngor a dderbyniodd y Llyfrgell gan ei ymgynghorwyr cyfreithiol yng ngoleuni’r sylwadau a fynegwyd gan y Barnwr Cyflogaeth.

–          Nodi’r gwersi y gallai’r Llyfrgell eu dysgu o’r profiad hwn ac edrych a yw’r gweithdrefnau presennol yn addas i’r diben.

–          Cadarnhau, er gwaetha’r dyfarniad a gaed, a oedd y camau a gymerwyd gan y Llyfrgell yn rhesymol ai peidio.

Dywed y Llyfrgell na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach tan fod yr adolygiad wedi’i gwblhau.