Jimmy Savile
Cafodd o leiaf 22 o ddisgyblion ac un ymwelydd mewn ysgol ar gyfer merched oedd yn dioddef o anhwylder emosiynol eu cam-drin yn rhywiol gan y troseddwr rhyw Jimmy Savile, yn ôl adroddiad yr heddlu.

Mae Heddlu Surrey wedi cwblhau ei ymchwiliad i’r cyn gyflwynydd teledu a oedd wedi cael mynediad, heb ei oruchwylio, i Ysgol Duncroft yn Staines, Surrey.

Roedd Savile wedi ymweld â’r ysgol o leiaf 16 o weithiau rhwng 1974 a 1979 a hyd yn oed wedi aros dros nos ar ddau achlysur.

Fe gyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ym mis Rhagfyr na fyddai unrhyw gyn aelodau o’r staff yn cael eu herlyn yn dilyn ymchwiliad yr heddlu i ddarganfod a oedd unrhyw un wedi bod yn rhan o’r cam-drin.