Ymgeisydd Plaid Cymru ym Môn, John Rowlands (llun: Flickr/Plaid Cymru)
Jamie Thomas sydd wedi bod yn sgwrsio â John Rowlands o Blaid Cymru, y trydydd mewn cyfres o erthyglau i golwg360 yn holi’r ymgeiswyr yn ras etholiadol Ynys Môn…
Fe allai pleidlais i Blaid Cymru yn Ynys Môn wneud gwahaniaeth yn Llundain a golygu bod gan yr ardal ddylanwad am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth, yn ôl ymgeisydd y blaid ar yr ynys.
Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Plaid Cymru eu bod nhw eisiau datgloi potensial economaidd gogledd Cymru, dywedodd John Rowlands bod nifer o nodweddion Ynys Môn yn rhan allweddol o hynny.
Ac yn ôl ymgeisydd Plaid Cymru, ei flaenoriaeth ef fyddai sicrhau bod cysylltiadau trafnidiaeth yn cael eu gwella.
“O ran Gogledd Cymru yn fwy eang mae ein polisïau ni’n cynnwys trydaneiddio rheilffyrdd y gogledd, a gwella llais y gogledd yn y llywodraeth lawr yng Nghaerdydd,” meddai.
“Mae Rhun [ap Iorwerth] fel yr Aelod Cynulliad wedi bod yn gweithio’n galed ac yn pwyso ar y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd – mae’n rhaid i ni gael gwelliannau ar yr A55, a’r rheilffyrdd yr un fath.”
‘Angen gweithredu rŵan’
Cyfaddefodd John Rowlands bod gan y pleidiau eraill gynlluniau i ddelio â’r materion hynny hefyd yn y tymor hir, ond nad oedd hynny yn ddigon dda o’i gymharu â beth mae Plaid Cymru yn gofyn amdano.
“Maen nhw yn y cynlluniau tymor hir i wella’r pethau yma, ond rydan ni eisiau i’r pethau yma ddigwydd yn gynt nag y mae llywodraeth Caerdydd a’r llywodraeth yn Llundain wedi ei ddweud,” mynnodd John Rowlands.
Mae angen i faterion megis trafnidiaeth gael eu datrys cyn gynted â phosib, meddai, er mwyn sicrhau bod diwydiannau’r gogledd yn ffynnu i’w llawn botensial.
“Wrth sôn am y cysylltiad efo Dulyn y teimlad ydi ein bod ni eisiau gwella’r porthladd yng Nghaergybi hefyd, ond fedrwn ni ddim gwneud hynny heb wella’r cysylltiadau rheilffyrdd a’r lonydd,” ychwanegodd.
Cefnogi Wylfa B
Doedd John Rowlands ddim am daro tôn rhy negyddol ynglŷn â sefyllfa Ynys Môn, fodd bynnag, gan bwysleisio bod llawer o lwyddiannau economaidd yn y sir ar hyn o bryd.
“Mae ‘na bethau calonogol yn digwydd ar Ynys Môn hefyd wrth gwrs, fel rydyn ni wedi gweld yng Nghaergybi efo’r pwerdy biomas, gyda channoedd o swyddi adeiladu a pharhaol dros y blynyddoedd nesaf,” meddai John Rowlands.
Dywedodd hefyd ei fod yn cefnogi datblygiad atomfa niwclear Wylfa Newydd ar yr ynys, ond ei fod am sicrhau y bydd cyfleoedd yno i bobl leol, a’i fod hefyd o blaid datblygu rhagor o ynni gwyrdd.
Fodd bynnag, roedd hefyd yn awyddus i bwysleisio na fyddai ef na’i blaid yn canolbwyntio’n llwyr ar Ogledd Cymru yn unig, er gwaethaf y cyhoeddiadau diweddar.
“Fy ngwaith i fel ymgeisydd ydi perswadio pobl i bleidleisio drosom ni achos rydym ni eisiau sefyll yn gadarn dros bobl Ynys Môn, Gogledd Cymru, a Chymru yn gyfan gwbl,” ychwanegodd John Rowlands.
Bydd Jamie Thomas yn siarad â’r holl ymgeiswyr eraill yn etholaeth Ynys Môn yn ystod yr ymgyrch.
Gallwch ddarllen ei sgwrs â’r ymgeisydd UKIP Nathan Gill yma, a’i sgwrs â’r ymgeisydd Ceidwadol Michelle Willis yma.