Keith Harris gydag Orville
Mae’r tafleisiwr a’r diddanwr Keith Harris, oedd yn enwog am berfformio gyda’i byped Orville, wedi marw heddiw yn 67 oed, meddai ei asiant.

Dywedodd Robert C Kelly fod Keith Harris wedi darganfod fod ganddo ganser yn 2013, ond bod y salwch wedi dychwelyd eto ym mis Ionawr.

Bu farw yn yr ysbyty yn Blackpool ar ôl treulio ei fisoedd olaf yn ei ail gartref ym Mhortiwgal.

Roedd gan Keith Harris, a briododd bedair gwaith, dri o blant.

Bu’n diddanu cenedlaethau o blant gyda’i byped Orville – hwyaden werdd lachar – a mwnci o’r enw Cuddles.

Ar anterth ei enwogrwydd, roedd yn wyneb cyfarwydd ar raglenni teledu a bu’n rhoi perfformiadau preifat ym mhartïon pen-blwydd y Tywysog William a’i frawd, Harry.

Cafodd ei sengl gydag Orville, I Wish I Could Fly, ei ryddhau yn 1982 gan gyrraedd y pum uchaf yn y siartiau a gwerthu mwy na 400,000 o gopïau.