Aidan Turner yn chwarae rhan Poldark Llun: BBC
Fe wnaeth tua chwe miliwn o bobol wylio rhaglen olaf y gyfres deledu gyfnod Poldark ar BBC1 neithiwr.
Roedd y rhaglen yn adrodd hanes marwolaeth sydyn merch fach Poldark a Demelza, gan orffen yn benagored er mwyn arwain at ail gyfres.
Mae gwylwyr selog Poldark wedi bod yn dilyn y gyfres, sydd wedi’i selio ar nofelau Winston Graham ac yn cael ei sgriptio gan Debbie Horsfield, ers 8 Mawrth.
Dywedodd yr adolygwr Cameron K McEwan ei bod hi’n gam dewr gorffen ar nodyn mor ddigalon, ond bod y digwyddiadau a’r actio yn y rhaglen awr o hyd wedi rhoi gwledd i wylwyr.
Y gyfres, sy’n cael ei ffilmio yng Nghernyw, oedd llwyddiant mwyaf y BBC ers degawd yn chwarter cyntaf y flwyddyn. Yr actor Aidan Turner sy’n chwarae rhan y prif gymeriad Ross Poldark.
Roedd y Cymro Richard Harrington yn chwarae rhan y Capten Andrew Balmey yn y ddrama.