Wedi i Golwg ddatgelu’r wythnos ddiwetha’ na fydd canolfan ysgrifennu Tŷ Newydd yn cynnig cyrsiau preswyl Cymraeg eleni, mae un o awduron mwya’ poblogaidd Cymru wedi galw am wneud gwaith ymchwil i ddarganfod pam nad yw’r cyrsiau preswyl yn denu siaradwyr Cymraeg.
Diffyg arian yw’r prif reswm wrth wraidd penderfyniad y rheolwyr i gynnig cyrsiau preswyl Saesneg yn unig, yn nhyb Bethan Gwanas, ond mae hi’n awgrymu y gall “rhesymau eraill” fod wedi arwain at y newid.
“Mae’n rhaid i rywun wneud y penderfyniad… i wneud ymchwil i holi pam fod Cymry Cymraeg wedi rhoi’r gorau i ddod ar gyrsiau cyfrwng Cymraeg i Dŷ Newydd,” meddai Bethan Gwanas.
“Mae cymaint ohonon ni’n diodde’ oherwydd y sefyllfa economaidd bresennol. Ond efallai bod rhesymau eraill. Mae angen gwybod be ydyn nhw er mwyn ceisio cynnig cyrsiau preswyl eto yn y dyfodol a denu pobol newydd.”
Holly Aldridge sydd yn gyfrifol am redeg prosiectau Tŷ Newydd ar hyn o bryd yn absenoldeb Bo Mandeville oherwydd salwch.
‘Llwyddiant’ y byd cyhoeddi Saesneg
Yn ol Prif Weithredwr y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol yn Llanystumdwy, mae cyrsiau preswyl Saesneg Tŷ Newydd yn boblogaidd ond dyw’r rhai Cymraeg ddim yn denu cystal:
“Drwy gyfrwng y Saesneg gwelwn fod cyrsiau preswyl wythnos o hyd yn boblogaidd bob amser. Yn y Gymraeg wedyn mae gwyliau penwythnos, dosbarthiadau nos a chyrsiau undydd yn denu mwy o ymateb,” meddai Lleucu Siencyn.
Mae’r ymateb ffafriol i’r cyrsiau Saesneg yn deillio o’r meddylfryd sydd gan rai Cymry fod rhaid troi at y Saesneg i fod yn awdur neu fardd llwyddiannus, meddai Bethan Gwanas:
“Mae pobol yn tueddu i feddwl bod tiwtoriaid sy’n awduron neu feirdd yn y byd cyhoeddi Saesneg â mwy o wybodaeth, profiad a kudos am ryw reswm. Ac mae pobol sy’n sgwennu, fel bandiau, yn meddwl bod mwy o obaith ‘llwyddo’ os yn troi at y Saesneg.”
Cyrsiau i ddysgwyr
Yn ogystal â galw am waith ymchwil i ddarganfod pam nad yw cyrsiau preswyl Cymraeg Tŷ Newydd yn denu, mae angen i’r ganolfan sefydlu cyrsiau i ddysgwyr a rhai mwy penodol, yn ol yr awdur:
“Dw i’n meddwl y gellid mentro cynnig cyrsiau penwythnos ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg – rhai sydd wrthi ers sbel, neu rai lefel uwch, sydd am wella eu sgiliau sgwennu Cymraeg.
“Hefyd, mae gwir angen mwy o lyfrau gwreiddiol ar gyfer plant 8-12 oed a byddai’n wych gallu hel criw o sgwennwyr newydd ( a rhai profiadol) at ei gilydd i weithio ar syniadau. Ond byddai nawdd yn foronen effeithiol ar gyfer cwrs o’r fath, a phwy sydd â phres y dyddiau yma?”