Huw Thomas
Ni ddylai Huw Thomas orfod ymddiheuro, heb son am ymddiswyddo, meddai Ifan Morgan Jones…
Os yw ymgeisydd Llafur yng Ngheredigion, Huw Thomas, yn euog o unrhyw beth, rhagrith ac efallai ychydig o naïfrwydd gwleidyddol yw hwnnw.
Galwodd ar Mike Parker i ymddiswyddo yn dilyn cyhoeddiadau digon di-sail yn y Cambrian News am erthygl a ysgrifennodd 14 mlynedd yn ôl.
Roedd hynny’n gamgymeriad – os ydych chi’n dechrau taflu baw, mae’n debygol os nad yn anochel y bydd rhywfaint o faw yn glanio yn ôl arnoch chi.
Y nod wrth dynnu sylw at sylwadau digon amheus ganddo ef ei hun yn 2006, oedd dangos bod pawb wedi cyhoeddi pethau dwl rywbryd yn eu gorffennol.
Ond fel Mike Parker, nid ddylai orfod ymddiheuro, heb son am ymddiswyddo, am eu cynnwys.
Yn wir, pe na bai wedi bod mor barod i feirniadu Mike Parker, ni fyddai’r ffaith iddo ddweud ambell beth annoeth naw mlynedd yn ôl yn stori o gwbl.
Mae’n siŵr bod hanner trigolion Maes-e – gan fy nghynnwys i – wedi dweud pethau fyddai yn codi cywilydd arnom ni erbyn hyn.
Yn wir, roedd ‘Huw T’ ymysg y cyfranwyr callaf a mwyaf aeddfed ar y safle. Roedd y maes yn flwch tywod gwleidyddol i sawl ffŵl ifanc sydd bellach yn newyddiadurwr, ymgeisydd, ac Aelod Seneddol parchus.
Drwy gymryd geiriau Huw Thomas, oedd yn fyfyriwr 21 oed ar y pryd, allan o’u cyd-destun mae’r cyfryngau Llundeinig mewn peryg o wneud yr un cam ag ef ac y gwnaethon nhw â Mike Parker.
Mae’r Daily Star a’r Daily Telegraph eisoes yn honni mai ar flog personol y cyhoeddodd ei sylwadau, cyd-destun gwahanol iawn i sgwrs tafod yn y boch ar fforwm drafod Gymraeg.
Mae hefyd yn drueni bod rhai, gan gynnwys arweinydd UKIP, Nigel Farage, ac is-Gadeirydd y Ceidwadwyr, Bob Neill, wedi ceisio ei ddefnyddio fel pel-droed gwleidyddol, heb wybod dim mewn gwirionedd am yr achos.
Mae Huw Thomas yn ddyn o Geredigion sydd wedi penderfynu dychwelyd adref o Gaerdydd i ymgeisio am sedd yn yr ardal u’i magwyd ynddo.
Bydd etholwyr y sir yn gwerthfwrogi hynny, ac ar ôl tudalen flaen anffodus y Cambrian News ddydd Mawrth, gobeithio y gallai’r etholiad ddylchwelyd i rywfaint o normalrwydd yr wythnos nesaf.
Dydw i ddim yn credu y bydd unrhyw un yn dal dig. Fe fydd y cyfryngau wedi symud ymlaen at benawadu eraill yfory.
Ac rwy’n sicr y bydd pob un o’r ymgeiswyr am gadw’r ras mor lân a phosib o hyn allan.