Bydd grŵp o Aelodau’r Cynulliad yn ymweld â Bosnia yr wythnos nesaf fel rhan o raglen o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd ers cyflafan Srebrenica.
Ar 11 Gorffennaf 1995, cwympodd Srebrenica, cilfach Fwslemiaid ym Mosnia, dan reolaeth Lluoedd Serbia. Dros y 10 diwrnod canlynol, cafodd mwy na 8,000 o Fwslemiaid eu lladd.
Fel rhan o’r digwyddiadau coffáu, bydd y Dirprwy Lywydd y Cynulliad, David Melding AC, ynghyd â Chomisiynwyr y Cynulliad, Sandy Mewies AC, Rhodri Glyn Thomas AC a Peter Black AC, yn ymweld â Srebrenica fel gwesteion yr elusen o’r DU, Remembering Srebrenica.
Dywedodd David Melding AC: “Mae’n wirionedd arswydus i 8,000 o bobl gael eu lladd ar bridd Ewrop oherwydd eu cred grefyddol mor ddiweddar â 1995.
“Hyd yn oed ar ôl 20 mlynedd, mae’r gyflafan yn dal i fod yn annealladwy i lawer ohonom.
“Byddwn yn ymweld â Srebrenica ac yn gosod torch yng Nghanolfan Goffa Srebrenica-Potocari.
“Bydd y Cynulliad yn cynnal digwyddiad coffa yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Rhaid inni byth ag anghofio beth ddigwyddodd yn Srebrenica, mae cofio’n ffordd o geisio sicrhau na fydd erchylltra tebyg yn digwydd byth eto.”
Ar 8 Gorffennaf eleni, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal un o’r tri digwyddiad coffáu swyddogol ar gyfer y gyflafan yn y DU.