Yws Gwynedd
Mae nifer o gantorion Cymru wedi ymuno i ail recordio cân elusen er mwyn cefnogi ymgyrch canser yr wythnos hon.

Ymysg y cantorion ddaeth at ei gilydd i ganu ‘Hawl i Fyw’ gan Dafydd Iwan, roedd Yws Gwynedd,  Rhys Meirion, Elin Fflur, Bryn Fôn, Gwyneth Glyn, Casi a Chôr y Brythoniaid.

Bydd y gân yn cael ei rhyddhau’r wythnos nesa gyda’r elw’n mynd tuag at ymgyrch ‘Hawl i Fyw’ Irfon Williams ac Awyr Las Gogledd Cymru, sy’n codi arian i helpu cleifion canser yng ngogledd Cymru.

Cafodd y gân ei recordio’r tro cyntaf fwy na 30 mlynedd yn ôl er mwyn cefnogi dioddefwyr newyn Ethiopia.

Mae Irfon Williams, sy’n 44 mlwydd oed, ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth am ganser y coluddyn.  Mae wedi dewis symud i Loegr er mwyn derbyn ei driniaeth oherwydd nad oedd cyffur trin canser ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Irfon yn “ysbrydoledig”

Dywedodd Yws Gwynedd wrth golwg360 ei fod yn falch iawn o allu gwneud rhywbeth i helpu achos teilwng fel ymgyrch Irfon Williams.

Meddai Yws Gwynedd, cyn-ganwr Frizbee ac enillydd Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau’r Selar yn gynharach eleni: “Mi o’n i’n awyddus iawn i fod yn rhan o hyn er mwyn helpu Irfon a’i ymgyrch.

“Mi fydda Irfon wedi gallu mynd i lawr trywydd gwahanol er mwyn ceisio cael mynediad at y cyffuriau ond fydda hynny heb newid pethau i bobl fydda’n dod ar ei ôl o.

“Mae o’n ysbrydoledig ei fod o’n trio newid i bobl eraill hefyd ac mae mynd i’r stiwdio pan mae pawb yn gweithio at yr un nod wastad yn ddiwrnod da.”

Bydd y fersiwn newydd dwyieithog o ‘Hawl i Fyw’ yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth nesaf, a’r gân ar gael i’w lawrlwytho oddi ar iTunes.