Mae yna wersi i bawb o ganlyniad i’r ffraeo dros dudalen flaen y Cambrian News, yn ôl Ifan Morgan Jones…
Dros 24 awr wedi i’r Cambrian News daflu olew ar dân y ras etholiadol yng Ngheredigion drwy honni bod Mike Parker wedi cyhuddo mewnfudwyr o fod yn Natsiaid, mae’r dadlau’n parhau yn angerddol.
Yn fy nhyb i does neb wedi dod allan o’r holl beth gyda ryw lawer o ganmoliaeth, y tu hwnt efallai i ddeiliaid y swydd, Mark Williams, sydd wedi dangos ei brofiad gwleidyddol trwy aros uwchlaw’r ffraeo.
Y Wasg
Fel y nodais yn fy mlog bore ddoe, roedd y pennawd ac is-benawd stori’r Cambrian News yn annheg. Mae Martin Shipton, prif ohebydd y Western Mail, wedi dadlau hynny gydag arddeliad.
Rhaid i bob newyddiadurwr fod yn fwy gofalus wrth ymdrin â honiadau yn erbyn ymgeiswyr yn ystod cyfnod etholiad, am resymau yn ymwneud â’u hygrededd yn ogsytal a rhesymau cyfreithiol.
Yn ôl adran 106 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 mae’n drosedd cyhoeddi ffaith anghywir ar fwriad am gymeriad neu ymddygiad ymgeisydd etholiadol.
Nid ryw ddeddf di-nod yw hon – bu’n rhaid cynnal is-etholiad yn sedd Oldham East and Saddleworth yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2010, o ganlyniad iddo.
Dydw i ddim yn awgrymu i unrhyw un dorri’r gyfraith yn yr achos hwn, ond dylai pawb (gan gynnwys y wasg, ymgeiswyr a thrydarwyr brwd) bwyllo ar adegau fel hyn a’i gadw mewn cof.
Rwy’n siwr nad oes unrhyw un yng Ngheredigion – na’r pleidiau tlawd chwaith – eisiau gorfod mynd drwy hyn ddwywaith!
Nid yw canolbarth Cymru yn cael ryw lawer o sylw gan y wasg fel y cyfryw. Mae’n bwysig felly bod y cyfryngau prin rheini sydd ar gael yn sicrhau eu bod yn cynnal ymddiriedaeth eu darllenwyr.
Y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol
Rhaid i’r pleidiau gwleidyddol hefyd ochel rhag ymddangos yn or-awyddus i ymuno â ymosodiadau’r wasg, nes sicrhau bod sail i’w honiadau.
Fel yn achos memo-gate Nicola Sturgeon dros y penwythnos, ymddengys bod tueddiad gan rai (yn enwedig yn y trydarfyd) i or-gyffroi a neidio i gasgliadau ar sail adroddiadau yn y wasg heddiw ac ymddiheuro yn ddistaw bach yfory.
Mae’n gallu gadael blas cas yng ngheg yr etholwyr, ac arwain at sefyllfa lle y maent yn troi at rwydweithiau cymdeithasol yn hytrach na’r wasg prif-lif am eu newyddion.
Mae’r rhwydweithiau cymdeithasol rheini yn gallu troi’n ‘siambrau echo’ hunan-gynhaliol sy’n anodd iawn i’r prif bleidiau eu treiddio.
Un o brif fanteision Llafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol mewn etholiad yw’r sylw ehangach y maent yn eu dderbyn yn y wasg.
Ydynt wir eisiau pla o ‘cybernats’ yn codi yng Nghymru fel yn yr Alban? Os na, dylent ail-ystyried eu tactegau.
Mike Parker
O dderbyn bod y Cambrian News wedi camddehongli Mike Parker, ni ddylid neidio i’r casgliad ei fod ef yn gyfan-gwbl ddi-fai chwaith.
Roedd y geiriau “gun-toting Final Solution crackpots” yn ormodiaith, beth bynnag y cyd-destun.
Un gwendid posib yn ysgrif Mike Parker yw ei dueddiad i or-ramantu y brodorion lleol ar draul hwyrddyfodiaid.
Wrth esbonio ei sylwadau ddoe, dywedodd: “”I was fired-up and passionate, against racism, for the wonderful, compassionate, tolerant community I had moved into in mid Wales. The two things seemed so out of kilter…”
Mewn gwirionedd mae agweddau cul, bydded y rheini’n hiliol neu’n homoffobig, yn ddigon cyffredin ymysg y Cymry yn ogystal â’r Saeson.
Dadl nifer o’r rheini fu’n amddifyn Parker yw mai lleiafrif yn unig – ‘sprinkling’ – yr oedd yn cyfeirio atynt yn ei erthygl.
Os mai dyna’r dehongliad, yna rhaid hefyd derbyn fod yna ‘sprinkling’ o’r brodorion sy’n ddigon parod i arddel safbwyntiau digon annymunol yn ogystal.
PR Plaid Cymru
Roedd methiant deublyg ymddangosiadol gan adran cysylltiadau cyhoeddus Plaid Cymru yn yr achos hwn.
Y cyntaf oedd i beidio a sylweddoli y gallai yr hyn a ysgrifennodd Mike Parker yn y gorffennol gael ei ddefnyddio yn ei erbyn yn y dyfodol.
Wedi’r cyfan, roedd yr union yr un ysgrif wedi denu llid papur newydd y Telegraph pan y’i cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2001.
Dylai unrhyw dîm cysylltiadau cyhoeddus baratoi cynllun o flaen llaw – gan gynnwys datganiadau, a chamau i’w cymryd – ar gyfer y trychinebau sy’n fwyaf tebygol o ddod i’r amlwg.
Yr ail gamgymeriad oedd peidio a sicrhau bod Mike Parker yn siarad â’r wasg cyn gynted ag y torrodd y stori, a sicrhau mai ei ochr ef a gai amlygrwydd.
Roedd cyfle fan hyn i droi stori negyddol yn un o gasineb tuag at hiliaeth, ac o hyrwyddo amrywiaeth yng nghefn gwlad Cymru. Ni lwyddwyd i wneud hynny.
Yn wir, yn ol un newyddiadurwr BBC ar Twitter, roedd wedi gwrthod cael ei gyfweld ganddynt ar y cynnig cyntaf o gwbl.
Rheol gyntaf cysylltiadau cyhoeddus mewn trychineb yw gwneud eich hun ar gael i’r wasg, a dechrau llywio’r naratif mewn cyfeiriad sydd o fantais i chi.
Os ydych chi’n gwrthod siarad â’r wasg, ac yn gadael gwagle, fe fydd yn cael ei lenwi naill ai gan wybodaeth ffeithiol anghywir, neu gan ymosodiadau gan eich gelynion.
Cyn beirniadu’r BBC am arwain y stori ar ymosodiadau gan Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, dylai’r darllenydd ystyried maen nhw oedd wedi cymryd y cam cyntaf i lenwi’r gwagle hwnnw.
Unwaith y derbyniodd Mike Parker gael ei gyfweld gan y BBC, ac ar ôl yr hustings gyda’r nos, ymddangosodd stori ble’r oedd ei safbwynt ar y mater yn cael blaenoriaeth.
Nid bai Mike Parker yw hyn – nid yw erioed wedi sefyll o’r blaen. Ond os yw Plaid Cymru am ddewis gwleidyddion amhrofiadol mae ganddynt gyfrifoldeb i’w hamddiffyn rhag ymosodiadau o’r fath.