Banc Lloegr
Mae Banc Lloegr wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cadw cyfraddau llog ar 0.5% am fis arall.
Roedd disgwyl y byddai’r gyfradd, sydd wedi bod ar ei lefel isaf erioed ers chwe blynedd bellach, yn cael ei chodi’n fuan.
Ond mae’r ffaith bod chwyddiant wedi cwympo i 0% yn golygu nad oes disgwyl i gyfraddau llog gael eu codi ar hyn o bryd.
Ac mae Siambr Fasnach Prydain wedi cynghori heddiw na ddylai’r cyfraddau llog gael eu codi nes o leiaf dechrau 2016.
Mae’r cyfraddau llog isel am y chwe blynedd diwethaf wedi bod yn newyddion da i fenthycwyr morgeisi, sydd ddim wedi gorfod talu cymaint yn ystod y cyfnod hwnnw.
Ond mae’r cyfraddau llog isel hefyd yn golygu nad yw pobl yn cael cymaint allan o’u cyfrifon cynilo.