Louise Lucas
Mae teulu’r blismones Louise Lucas wedi talu teyrnged iddi ar ôl iddi gael ei lladd mewn damwain ar Ffordd y Brenin yn Abertawe’r wythnos diwethaf.

Cafodd y Sarsiant Louise Lucas, oedd yn 41 oed, ei tharo gan fws ar 31 Mawrth mewn man yn y ddinas sydd yn adnabyddus am ddamweiniau ffyrdd.

Roedd ei merch wyth oed, Olivia, hefyd wedi cael ei hanafu yn y digwyddiad.

Roedd dyn arall, Daniel Foss o Benrhyn Gŵyr, eisoes wedi cael ei ladd yn yr un man yn 2013 ers i’r ffordd gael ei haddasu er mwyn ei gwneud hi’n ffordd ddwy lôn i fysiau.

Mae Cyngor Abertawe bellach wedi dweud y byddan nhw’n ystyried sut i newid system y ffyrdd yng nghanol y ddinas.

‘Byth yn anghofio’

Yn eu datganiad fe ddywedodd teulu Louise Lucas eu bod wedi colli aelod annwyl a chariadus, gan ddiolch i’r staff meddygol oedd wedi ceisio achub ei bywyd.

“Mae ein teulu yn torri ein calonnau oherwydd y ddamwain drasig hon a gymrodd Louise oddi wrthym ni’r wythnos diwethaf,” meddai datganiad y teulu.

“Rydym wedi colli gwraig, mam, merch a chwaer brydferth, a fyddwn ni byth yn ei hanghofio.

“Roedd Louise yn berson cymdeithasol a chariadus oedd yn gweithio’n galed. Mae hyn wedi gadael bwlch yn ein teulu ni nad oes modd ei lenwi.

“Hoffwn ddiolch i bawb am eu negeseuon, eu cofion a’u gweddïau ar yr adeg yma, mae pob un ohonynt yn rhywfaint o gysur i ni.

“Yn benodol hoffwn ddiolch i holl staff meddygol Ysbyty Treforys am bopeth wnaethon nhw i helpu Louise ac Olivia a’u cefnogaeth barhaol i’r teulu.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r heddlu am eu holl gymorth, cyngor a chefnogaeth, i aelodau’r cyhoedd oedd wedi helpu pan ddigwyddodd y ddamwain a staff cymdeithas adeiladu Principality gymrodd ofal o Olivia.”