Canolfan Pontio, Bangor
Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am adeiladu canolfan gelfyddydau Pontio ym Mhrifysgol Bangor wedi wfftio honiadau gweithiwr ar y safle sy’n dweud bod “diffyg trefn” yn y broses adeiladu.
Roedd y gweithiwr wedi dweud wrth BBC Cymru fod difrod sylweddol oherwydd y glaw a chamgymeriadau adeiladu wedi cyfrannu at yr oedi ac am gynyddu costau’r cynllun.
Roedd disgwyl i’r ganolfan gwerth tua £48 miliwn agor ym mis Medi’r llynedd. Mae’r prosiect wedi derbyn £30 miliwn o’r pwrs cyhoeddus ond nid yw Prifysgol Bangor na Galliford Try yn gallu dweud pryd y bydd yr adeilad yn barod
Dywedodd llefarydd ar ran Galliford Try wrth Golwg360 heddiw mai “gweithiwr anfodlon” mwy na thebyg oedd wedi gwneud yr honiadau a’u bod yn ymdrechu i sicrhau bod yr adeilad yn agor mor fuan â phosib.
Dywedodd y llefarydd: “Mae yna lawer o bobl yn gweithio ar y safle ac nid yw’n anarferol yn y diwydiant adeiladu i gael ambell i weithiwr anfodlon.”
Ychwanegodd bod yr adeiladwyr wedi wynebu heriau ond nad oedd hynny’n anarferol mewn prosiect o’r fath: “Rydym wedi mynd dros y dyddiad cau yn y gorffennol ond rydym yn ceisio ac yn ymdrechu i’w orffen cyn gynted â phosib.”
‘Ansawdd uchel’
Wrth ymateb i’r honiadau, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor eu bod yn cydweithio gyda’r cwmni i sicrhau fod yr adeilad yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosib.
“Rydym yn parhau i weithio gyda Galliford Try er mwyn iddynt allu cwblhau’r adeilad i ansawdd uchel mor fuan â phosibl.
“Mae’n bwysig nodi fod trafodaethau helaeth wedi bod gyda’r cwmni trwy gydol y project, a bod llawer o’r trafodaethau hynny wedi canolbwyntio ar gyflawni adeilad o safon uchel. Cafwyd trafodaethau ar sawl lefel o fewn cwmni Galliford Try, ac mae ein Adran Ystadau yn monitro ansawdd yn gyson.
“Mae Galliford Try wedi ein sicrhau y byddant yn cwblhau’r adeilad i safon uchel, ac edrychwn ymlaen at weld yr adeilad yn agor.”