Michael Sheen
Bydd yr actor o Gymru, Michael Sheen yn portreadu’r dringwr George Mallory mewn ffilm hunangofiannol am ei fywyd.

Bydd y ffilm yn adrodd hanes y dringwr a ddiflannodd tra’n dringo mynydd Everest yn 1924.

Yr Albanes Kelly Macdonald fydd yn chwarae rhan ei wraig Ruth, tra bydd Andrew Scott (Sherlock) yn chwarae rhan ei gyfaill a’i gyd-ddringwr Noel Odell.

Roedd Mallory yn aelod blaenllaw o’r tri chriw cyntaf i fynd i Everest ddechrau’r 1920au.

Daethpwyd o hyd i gorff Mallory yn 1999.

Mae disgwyl i’r ffilmio, mewn nifer o leoliadau ledled y byd, ddechrau ym mis Medi.

Nid dyma’r prosiect cyntaf i geisio adrodd hanes y dringwr.

Roedd disgwyl i Tom Hardy ymddangos yn y ffilm ‘The Summit’ (Sony) ond dydy hi ddim yn glir eto a fydd y ffilm yn cael ei rhyddhau yn y pen draw.