Benedict Cumberbatch
Mae Bafta wedi cyhoeddi’r rhestr fer o enwebiadau ar gyfer y gwobrau teledu fydd yn cael eu cynnal yn Llundain ar Fai 10.

Flwyddyn ar ôl i Cilla Black dderbyn gwobr arbennig, mae’r actores Sheridan Smith wedi cael ei henwebu am wobr yr actores orau am chwarae rhan y gantores o Lerpwl mewn drama am ei bywyd.

Yn dilyn llwyddiant ‘Cilla’, dychwelodd y gân ‘Anyone Who Had a Heart’ i’r siartiau Prydeinig am y tro cyntaf ers iddi gyrraedd rhif un yn 1964.

Bydd Smith yn mynd benben â Keeley Hawes (Line of Duty), Sarah Lancashire (Happy Valley) a Georgina Campbell (Murdered By My Boyfriend).

Gallai buddugoliaeth i Georgina Campbell beri embaras i’r BBC, wedi iddyn nhw benderfynu cael gwared ar BBC3, y sianel oedd wedi dangos y ddrama honno.

Yng nghategori’r dynion, mae Benedict Cumberbatch wedi’i enwebu am y trydydd tro, a hynny am ei berfformiad yn y gyfres ‘Sherlock’.

Bydd e’n mynd benben â Toby Jones (Marvellous), James Nesbitt (The Missing) a Jason Watkins (The Lost Honour of Christopher Jefferies).

Mae James Norton (Happy Valley) wedi’i enwebu am yr actor cynorthwyol gorau, ac mae’r rhaglen wedi’i henwebu am y ddrama orau.

Mae Gemma Jones wedi’i henwebu am yr actores gynorthwyol orau – a hynny am y tro cyntaf ers 1977 – am ei rhan yn ‘Marvellous’, ynghyd â Vicky McClure (Line of Duty), Amanda Redman (Tommy Cooper) a Charlotte Spencer (Glue).

Mae Ken Stott (The Missing), Adeel Akhtar (Utopia) a Stephen Rea (The Honourable Woman) hefyd wedi’u henwebu ar gyfer yr actor cynorthwyol gorau.

Adloniant

Yn y categori adloniant, mae enwebiadau ar gyfer Claudia Winkelman (perfformiad adloniant gorau), ynghyd â Graham Norton, Ant a Dec a Leigh Francis (Celebrity Juice).

Yn y categori comedi, mae enwebiadau ar gyfer Olivia Coleman a Tom Hollander (Rev).

Bydd Colman yn herio Jessica Hynes (W1A), Tamsin Greig (Episodes) a Catherine Tate (cymeriad Nan).

Bydd Hollander yn herio Hugh Bonneville (W1A), Matt Berry (Toast of London) a Brendan O’Carroll (Mrs Brown’s Boys).

Yng nghategori’r rhaglen adloniant orau mae ‘Saturday Night Takeaway’, ‘Strictly Come Dancing’, ‘The Voice’ a ‘Dynamo: Magician Impossible’.

Mae enwebiadau hefyd ar gyfer ‘The Graham Norton Show’, ‘Weekly Wipe’ Charlie Brooker, ‘Would I Lie To You’ a ‘Comedy Vehicle’ Stewart Lee.

Yng nghategori’r sgript comedi mae Harry Enfield a Paul Whitehouse (Harry And Paul’s Story of the Twos), James Corden a Mathew Baynton (The Wrong Mans), Chris O’Dowd (Moone Boy) a Toby Jones a Mackenzie Crook (Detectorists).

Yn y categori rhyngwladol mae ‘Orange Is The New Black’, ‘House of Cards’, ‘The Good Wife’ a ‘True Detective’.

Yn y categori realaeth mae ‘The Undateables’, ‘The Island’, ‘The Apprentice’ ac ‘I’m a Celebrity…’

Ym myd operâu sebon, mae enwebiadau hefyd ar gyfer Hollyoaks, Casualty, Eastenders a Coronation Street.