Arwydd Plaid Cymru yng Ngheredigion yn 2011
Ifan Morgan Jones sy’n holi beth all atal llwyddiant etholiadol Plaid Cymru yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai…
Wrth i’r SNP dargedu ennill bron i bob un o seddi’r Alban yn yr Etholiad Cyffredinol, mae Plaid Cymru yn wynebu dyfodol llai gobeithiol o lawer. Os aiff pethau o’i plaid gallai ennill un sedd ychwanegol, sef Ceredigion, ond mae yna bryder go iawn ymysg eu rhengoedd y bydd Arfon yn syrthio i ddwylo’r Blaid Lafur.
Mae’r SNP, y Blaid Werdd, ac UKIP oll wedi llwyddo i elwa ar yr difaterwch tuag at y dewis arferol o’r Rhyddfrydwyr, Llafur, a’r Ceidwadwyr. Pam nad yw Plaid Cymru wedi llwyddo i wneud hynny?
1. Dyw’r Blaid Lafur yng Nghymru ddim yn ddigon cecrus
Mae gan y Blaid a’r SNP elyn yn gyffredin, sef y Blaid Lafur, ond maent yn greaduriaid gwahanol iawn yng Nghymru a’r Alban. Mae gwleidyddion Llafur yn yr Alban wedi bod yn fwy llwyddiannus na’u comrades yng Nghymru wrth ddringo’r ystol i frig y blaid yn San Steffan. O ganlyniad, maen nhw wedi ei chael hi’n anodd rhoi dŵr coch clir rhyngddynt ac arweinyddiaeth y blaid Llundeinig.
Mae llwyddiant cymharol ASau Llafur yr Alban hefyd yn golygu eu bod nhw’n llawer mwy uchelgeisiol, ac yn llai parod i geisio sicrhau grym yn senedd eu gwlad eu hunain (doedd yr un Aelod o Senedd yr Alban yn ddigon da i gymryd drosodd ar ôl i Johann Lamont roi’r ffidil yn y to). Yn ogystal, golygir bod llawer mwy o ffraeo mewnol o fewn y blaid wrth iddynt gystadlu am ddylanwad.
Yn y cyfamser mae’r Blaid Lafur yng Nghymru, sydd mor dymhestlog â llyn hwyaid ar ddiwrnod braf o wanwyn o’u cymharu gyda Llafur yr Alban, wedi gallu mabwysiadu ryw fath o genedlaetholdeb ysgafn yn eu hagwedd at yr iaith Gymraeg a chymreigrwydd, a oedd yn ddigon i ddenu cefnogaeth y rheini a allai fel arall fod wedi eu hudo i gorlan y Blaid. Y peth mwyaf cyffrous i ddigwydd yn rhengoedd Llafur yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf oedd Leighton Andrews yn cael ei yrru i’r cornel drwg am flwyddyn neu ddwy. Maent wedi gwneud rhinwedd o fod braidd yn ddiflas.
2. Yr Iaith Gymraeg
Ar yr un llaw, mae cefnogaeth Plaid Cymru i raddau helaeth yn ddibynnol ar siaradwyr a charedigion yr iaith Gymraeg. Mae cefnogaeth y Blaid ar ei chryfaf yn yr ardaloedd rheini ble mae’r canran uchaf yn siarad yr iaith. Dyw hynny ddim yn syndod o ystyried mai’r bobl sy’n siarad Cymraeg sydd fwyaf tebygol o fod yn genedlaetholwyr.
Nid yw’r SNP yn cael ei gysylltu yn uniongyrchol gyda’r Aeleg yn yr un modd. Fel yr awgrymodd canlyniadau refferendwm yr Alban, does dim cymaint o gysylltiad hanesyddol rhwng yr iaith honno a chenedlaetholdeb Albanaidd. Mae hyn yn caniatáu i’r SNP ei phortreadu ei hun fel plaid sy’n rhoi’r pwyslais ar genedlaetholdeb sifig, yn hytrach na chenedlaetholdeb ‘ethnig’ ieithyddol. Mae Plaid Cymru hefyd am roi’r pwyslais ar genedlaetholdeb sifig, ond oherwydd natur ei gefnogaeth ystyrir hi gan rai pleidleiswyr i fod yn blaid i siaradwyr Cymraeg yn unig.
Nid yw hwn, wrth gwrs, yn faen melin y byddai y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog hwn am i’r blaid ei ddiosg.
3. Rhy adain-chwith
Mae Plaid Cymru wedi bod yn tueddu fwy fwy i’r chwith dros y blynyddoedd diwethaf, yn fwy felly na’r SNP sydd yn agosach at y tir canol (gellid dadlau bod y blaid wedi mynd ymhellach fyth i’r chwith dan awreiniad Leanne Wood ers 2010). Gelwir y tir canol yn dir canol am reswm – am mai dyna lle mae trwch y pleidleiswyr yn trigo.
Mae gan Gymru enw am fod ymhellach i’r chwith, yn wleidyddol, na Lloegr – ond ai Gwyrddion Cymreig ydynt? Dylid nodi bod UKIP wedi ennill mwy o dir yn y cymoedd mewn ychydig flynyddoedd nag y mae Plaid wedi ei gyflawni mewn degawdau, a hynny heb unrhyw fath o bresenoldeb nag ymgyrchu ar lawr gwlad yno.
4. Gwendid y Wasg
Does dim gwasg genedlaethol Saesneg gan y Cymry. Mae’r Daily Post yn y gogledd, a’r Western Mail yn y de, ac afrif bapurau bychain rif y gwlith rhyngddynt. Caiff y rhan fwyaf eu newyddion o ffynonellau Prydeinig. Yn yr Alban ceir y Scotsman, y Daily Record, a’r papur newydd cenedlaetholgar newydd The National, ymysg eraill.
O ganlyniad, beth bynnag a wnâi Plaid Cymru, yn y Cynulliad neu yn San Steffan, mae’n annhebygol y bydd y pleidleiswyr yn clywed ryw lawer amdano. Yn y cyfamser maent yn clywed am y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr yn ddyddiol wrth i’r etholiad agosáu.
5. Naifrwydd gwleidyddol
Mae ymdrechion Plaid Cymru i glosio at y Blaid Werdd (blogiais amdano yma – ac nid fi oedd yr unig un), yn dangos diffyg crebwyll gwleidyddol ar ran Plaid Cymru. Plaid Werdd Lloegr a Chymru yw’r rhain (sy’n yn gwbl agored nad ydynt yn malio ryw lawer am y Gymraeg) – yr un blaid sy’n cefnogi atal pobl rhag gyrru ceir, sicrhau nad yw’r economi yn tyfu, dysgu cigwrthodaeth mewn ysgolion, a’i gwneud yn gyfreithlon bod yn aelod o Al-Qaeda. Dydyn nhw ddim, ar hyn o bryd beth bynnag, yn blaid sydd i’w cymryd o ddifrif (fel UKIP, mae’n bosib y byddant yn callio rhywfaint wrth i’r wasg ddechrau tynnu eu polisiau yn afrif rubannau). Serch hynny oll, llwyddasent i wneud i Blaid Cymru edrych braidd yn wirion.
Rwyf wedi blogio yn y gorffennol am dueddiad Plaid Cymru i fod yn rhy neis. Efallai bod neisrwydd y Blaid yn ymateb greddfol i’r modd y mae cenedlaetholwyr yn credu i Gymru ei thrin gan wleidyddion Prydaingarol dros y degawdau – efallai na allen ni ennill y frwydr am rym gwleidyddol, ond fe allen ni ennill y frwydr foesol. Gwlad y menig gwynion, ayyb…
Y broblem yw bod yr SNP bellach wedi dangos bod modd ennill y frwydr am rym wleidyddol, hefyd. A dyw’r blaid honno yn sicr ddim yn naif!
6. Llwyddiant yr SNP
A yw’n bosib bod llwyddiant etholiadol chwaer-blaid y Blaid yn yr Alban yn golygu bod y Cymry cenedlaetholgar wedi gorffwys ar eu rhwyfau ryw ychydig dros y blynyddoedd diwethaf?
Wedi’r cwbwl, os yw tranc y Deyrnas Unedig yn ymddangos yn anochel, efallai y daw er gwaethaf diffyg llwyddiant etholiadol Plaid Cymru. Does dim ond angen iddynt eistedd yn ôl a mwynhau’r sioe.
Y peryg gyda’r safbwynt hwn, wrth gwrs, yw nad yw llwyddiant yr SNP wedi arwain at gynnydd yng nghefnogaeth Plaid Cymru, annibyniaeth i Gymru, na rhagor o rymoedd i’r Cynulliad (cwymp o 9% er mis Medi yn ôl pol piniwn diweddaraf ICM/BBC).
Does dim awgrym chwaith y byddai Alban annibynnol yn golygu Cymru annibynnol – mae dros 40 o wledydd eraill esoes wedi eu hasgaru oddi wrth y DU, a does yr un ohonynt wedi dechrau domino rally.
Ymddengys bod Plaid Cymru bellach yn ddibynnol ar yr SNP i ddadlau eu hachos nhw os oes angen cefnogaeth ar Lywodreath Lafuraidd ar ôl yr etholaid.
Ond y gwirionedd amdani yw y bydd amcanion yr SNP a Phlaid Cymru yn dargyfeirio mwy a mwy wrth i’r naill a’r llall agosáu neu ymbellhau at annibyniaeth. Pleidiau cenedlaethol ydynt, wedi’r cwbl – ni allant ddatrys broblemau ei gilydd.