Gerry Adams
Mae arweinydd Sinn Fein, Gerry Adams wedi dweud na fyddai’n ystyried dod yn Taoiseach – neu’n Brif Weinidog – ond mae’n darogan buddugoliaeth i’w blaid yn yr etholiad yng Ngweriniaeth a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Adams nad yw’n fodlon bod yn rhan o weinyddiaeth sy’n cynnwys pleidiau Fine Gael neu Fianna Fail.

Dywedodd wrth RTE: “Dw i ddim yn meddwl y bydda i’n Taoiseach y flwyddyn nesa… mae i fyny i’r bobol.

“Ond dw i yn meddwl y byddwn ni’n llywodraethu’r ddwy dalaith ar yr ynys.”

Bydd etholiad cyffredinol yng Ngweriniaeth Iwerddon y flwyddyn nesaf, ac mae Sinn Fein ar y brig neu’n ail ym mhob un o’r polau piniwn sydd wedi cael eu cynnal hyd yn hyn.

Dywedodd Gerry Adams wrth gynhadledd flynyddol ei blaid neithiwr y byddai’n barod i waredu’r dreth ar eiddo a dŵr pe bai’n dod i rym, gan gyflwyno treth ar gyfoeth.

Byddai’r dreth ar gyfoeth yn golygu bod unigolion sy’n ennill dros 100,000 Ewro (£72,100) yn talu 7% yn ychwanegol mewn trethi.

Wrth annerch y gynulleidfa, dywedodd: “Rhaid i ni gael ein hatgoffa unwaith eto mai oren yw ein baner ni.

“Oren yn ogystal â gwyrdd. Mae oren yn rhan o’r hyn yr ydyn ni.”