Yr Esgob Libby Lane
Bydd y ddynes gyntaf i ddod yn esgob yn Eglwys Loegr yn rhoi ei phregeth gyntaf heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.
Daeth Libby Lane yn Esgob Stockport ym mis Ionawr, ond bydd hi’n cymryd at ei gwaith yn swyddogol mewn gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Caer y prynhawn yma.
Cyflwynodd Eglwys Loegr ddeddfwriaeth newydd fis Tachwedd diwethaf er mwyn caniatâu i fenywod ddod yn esgobion.
Bydd hi’n cael ei chroesawu’n ffurfiol yn ystod y gwasanaeth gan gymuned ffydd esgobaeth Caer.
Mae disgwyl i fwy na 1,500 fynychu’r gwasanaeth, lle bydd Deon Caer, y Parchedig Gordon McPhate yn ei derbyn hi’n swyddogol fel Esgob Stockport.
Dywedodd Gordon McPhate cyn y gwasanaeth: “Mae’n fraint gennym groesawu Esgob Stockport a’i chefnogwyr i’r gwasanaeth hwn yn yr eglwys gadeiriol.
“Bydd y gwasanaeth yn nodi diwrnod o addoli a dathlu – i ddynion a merched fel ei gilydd – wrth i bennod newydd gael ei chreu yn Eglwys Loegr.”