Mae’r Blaid Lafur yn barod i gymryd camau cyfreithiol er mwyn ei gwneud hi’n orfodol cynnal dadleuon teledu cyn etholiadau cyffredinol yn y dyfodol.
Daeth bwriad y Blaid Lafur i’r amlwg wedi i Brif Weinidog Prydain, David Cameron wrthod mynd ben-ben ag Ed Miliband cyn yr etholiad cyffredinol ar Fai 7.
Yn hytrach, fe fydd Cameron yn cymryd rhan mewn dadl â’r holl arweinwyr eraill gyda’i gilydd.
Fe fyddai’r drefn sy’n cael ei hawgrymu gan Miliband yn golygu sefydlu corff er mwyn pennu nifer, hyd ac amseru dadleuon yr arweinwyr yn y dyfodol.
Ni fyddai hawl gan y pleidiau wrthod cymryd rhan yn y dadleuon.
Gobaith y Blaid Lafur pe baen nhw’n dod i rym yw sefydlu’r corff erbyn 2017 yn barod ar gyfer etholiad cyffredinol 2020.
Dywedodd Ed Miliband wrth bapur newydd yr Observer: “Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae’r cyhoedd ym Mhrydain wedi cael gwledd o weld… y prif weinidog yn ceisio osgoi’r dadleuon teledu yr oedd e wedi hawlio un tro ei fod yn eu cefnogi gyda brwdfrydedd mawr.”
“Mae’n hen bryd sicrhau, unwaith ac am byth, fod y dadleuon hyn yn eiddo’r bobol, nid y prif weinidog ar y pryd.”
Mae disgwyl i’r BBC, ITV, Sky a Channel 4 gadw at eu cynlluniau gwreiddiol o gynnal tair dadl, ac mae’n bosib y gallen nhw osod cadair wag ar y llwyfan pe na bai Cameron yn fodlon cymryd rhan.
Fe fydd saith arweinydd – Cameron, Miliband, Nick Clegg, Nigel Farage, Natalie Bennett, Leanne Wood a Nicola Sturgeon – yn cynnal y ddadl gyntaf ar ITV Ebrill 2, ac ail ddadl ar y BBC ar Ebrill 16.
Mae disgwyl i ddadl rhwng Cameron a Miliband gael ei chynnal ar Sky News a Channel 4 ar Ebrill 30.