Mae’r gwyddonydd Dr Sarah Beynon a’i phartner am agor y bwyty trychfilod cyntaf o’i fath yng ngwledydd Prydain – ar fferm yn Nhyddewi!
Graddiodd Dr Beynon mewn Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Rhydychen cyn cwblhau ymchwil ôl-ddoethur mewn effaith trychfilod ar ecosystemau.
Ym mis Rhagfyr 2013, prynodd Dr Beynon a’i phartner Andrew Holcroft Fferm Harglodd Isaf er mwyn sefydlu fferm drychfilod.
Fe fu’r fferm ym meddiant ewythr Dr Beynon, Stanley Beynon cyn i’r teulu symud i fferm Penlan, lle cafodd hi a’i thad eu magu.
Mae’r teulu hefyd yn berchen ar fferm Penweathers yn Nhyddewi.
Mae fferm Harglodd Isaf hefyd yn gartref i labordy a chanolfan addysg, ac fe fydd Andrew Holcroft, sy’n gogydd, yn ychwanegu dimensiwn newydd i’r fferm drychfilod gyda bwydlen o brydau bwyd arbennig iawn.
Mae disgwyl i’r bwyty agor y flwyddyn nesaf.
Fe fu rhaglen Countryfile y BBC yn ffilmio ar y fferm yr wythnos diwethaf fel rhan o’u rhaglen arbennig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.