Bydd adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yn cael ei baentio’n borffor heno ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched.
Mae’r weithred yn rhan o ymgyrch ‘Merched mewn Bywyd Cyhoeddus’ sy’n cael ei harwain gan Lywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler.
Bydd gwefan Llywodraeth Cymru a’i holl wefannau cymdeithasol hefyd yn cael eu lliwio’n borffor ar gyfer yr achlysur.
Fe fydd cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn y Cynulliad yn ystod y dyddiau nesaf.
Ddydd Mercher, fe fydd adroddiad trawsbleidiol yn cael ei gyhoeddi i dynnu sylw at y ffyrdd y gellir mynd i’r afael â rôl merched mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Ddydd Iau, fe fydd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant a phennaeth Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis ymhlith panel o ddynion fydd yn trafod rôl dynion yn y frwydr am gydraddoldeb i ferched yn y gymdeithas.
Mewn datganiad, dywedodd y Fonesig Butler: “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched wedi’i gynnal ers dechrau’r 1900au ond dyma ni yn 2015 yn parhau i ymgyrchu tros gydraddoldeb i ferched.
“Mae merched yn cyfrif am fwy na hanner y boblogaeth ond pan edrychwn ni ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r arweinwyr yn cymdeithas, dynion yw’r mwyafrif o hyd.”