Vladimir Putin wedi'i feirniadu gan Boris Nemtsov
Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo’n ffurfiol mewn perthynas â marwolaeth y gwleidydd o Rwsia, Boris Nemtsov.

Dydy hi ddim yn glir eto a ydyn nhw wedi’u cyhuddo o’i lofruddio.

Mae tri arall hefyd yn wynebu cyhuddiadau yn dilyn llofruddiaeth Nemtsov ym Mosgo ar Chwefror 28.

Mae Dadaev yn gyn-filwr yn Chechnya ac mae Gubashev yn gweithio i gwmni diogelwch ym Mosgo.

Ychydig iawn o wybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi am y tri arall.

Mae cefnogwyr yr wrthblaid o’r farn fod Boris Nemtsov wedi’i lofruddio yn dilyn gorchymyn gan yr Arlywydd Vladimir Putin.

Roedd Nemtsov yn feirniad cyson o Putin ac o’r gwrthdaro rhwng Rwsia a’r Wcráin.