Mae dau lanc wedi cael eu lladd ac mae dau arall mewn cyflwr difrifol ar ôl i gar daro coeden ar ffordd A62 yn Swydd Efrog.
Mae lle i gredu bod y bechgyn yn eu harddegau wedi cael eu casglu gan y gyrrwr 21 oed cyn y gwrthdrawiad yn Morley ger Leeds am 1.50 brynhawn ddoe.
Mae’r gyrrwr a dau lanc 14 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Roedd y bechgyn a gafodd eu lladd yn 13 a 14 oed.
Mae lle i gredu bod y car Peugeot yn goryrru cyn y gwrthdrawiad, a’i fod wedi taro coeden ar gyflymdra uchel.
Mae Heddlu Gorllewin Swydd Efrog yn apelio am wybodaeth.