Cyril Smith
Mae’r Swyddfa Gabinet wedi gwadu eu bod nhw’n ymwybodol o honiadau bod Cyril Smith wedi camdrin plant pan gafodd ei urddo’n farchog.
Ond mae adroddiadau o’r cyfnod yn awgrymu bod y Prif Weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher, yn ymwybodol o’r honiadau cyn penderfynu urddo’r Aelod Seneddol Rhyddfrydol yn farchog.
Mae’r dogfennau, a gafodd eu rhyddhau i’r Mail on Sunday, hefyd yn dangos bod y gwas sifil mwyaf blaenllaw ar y pryd wedi anfon llythyr at y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus er mwyn darganfod pam nad oedd achos wedi’i ddwyn yn erbyn Smith yn sgil yr honiadau ei fod wedi camdrin bechgyn ifanc yn rhywiol.
Ymhlith y dogfennau a gafodd eu rhyddhau ddydd Gwener roedd llythyr gan aelod o Bwyllgor Craffu ar Anrhydeddau San Steffan, yn mynegi pryder y gallai rhoi anrhydedd i Smith arwain at “feirniadaeth negyddol”.
Yn ei lythyr, dywedodd yr Arglwydd Shackleton fod yr heddlu wedi ymchwilio i honiadau yn erbyn Smith yn 1970, ond fod y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus wedi penderfynu nad oedd diben ei erlyn.
Mewn ail lythyr at Thatcher yn 1988, mae awgrym fod y pwyllgor yn amheus ynghylch rhoi anrhydedd i Smith, ond eu bod nhw wedi penderfynu ei fod yn ymgeisydd addas.
Awgrymodd trydydd llythyr fod y penderfyniad i roi’r anrhydedd iddo wedi ei wneud ar ôl i’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus benderfynu peidio ei erlyn.
Cafodd yr holl ddogfennau eu rhyddhau i’r Mail on Sunday yn dilyn pum cais ac ymyrraeth gan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Ymhlith y rhai oedd yn ymgyrchu i sicrhau bod y dogfennau’n cael eu cyhoeddi roedd yr Aelod Seneddol Llafur, Simon Danczuk, sydd wedi ysgrifennu cyfrol am yr honiadau yn erbyn Cyril Smith.
Mae Danczuk wedi cyhuddo’r Prif Weinidog presennol, David Cameron a’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg o helpu Whitehall i gelu’r gwirionedd am Cyril Smith.