Clwb Ffermwyr Ifanc Hermon o Sir Benfro ddaeth i’r brig yn rownd derfynol Pantomeim Cymraeg Cymru neithiwr.
Clwb Ffermwyr Ifanc Penybont gipiodd yr ail wobr, a Chlwb Ffermwyr Ifanc Llanwennog yn drydydd.
Cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi ar noson gyntaf ‘Gwledd o Adloniant’ yn Theatr y Grand, Abertawe.
Heno, fe fydd enillydd y Pantomeim Saesneg yn cael ei gyhoeddi, ac fe fydd clybiau o Forgannwg, Sir Faesyfed, Sir Gâr, Sir Frycheiniog, Sir Benfro, Sir Drefaldwyn a Gwent yn herio’i gilydd.
Ffion Ann Phillips o Glwb Hermon gafodd ei henwi’n Aelod Iau y Flwyddyn neithiwr.