Boris Nemtsov wedi beirniadu Vladimir Putin
Mae disgwyl i bump o bobol ymddangos gerbron llys mewn perthynas â llofruddiaeth y gwleidydd Rwsiaidd, Boris Nemtsov.
Cafodd Nemtsov, un o wleidyddion mwyaf blaenllaw’r wrthblaid, ei saethu’n farw ger y Kremlin ym Mosgo ar Chwefror 28.
Cadarnhaodd yr awdurdodau ddoe fod dau o bobol wedi cael eu harestio.
Roedd adroddiadau neithiwr fod dau arall wedi’u harestio, ac roedd pumed person wedi’i arestio’n gynnar y bore ma.
Eisoes, mae’r Arlywydd Vladimir Putin wedi addo dod o hyd i’r sawl oedd yn gyfrifol.
Mae lle i gredu mai Anzor Gubashev a Zaur Dadaev o ranbarth Gogledd Caucasus yw dau o’r pump sydd wedi cael eu harestio.
Maen nhw’n cael eu hamau o fod ynghlwm wrth y llofruddiaeth, ond dydy hi ddim yn glir eto a oedd un o’r ddau wedi tanio’r dryll.
Cred cefnogwyr yr wrthblaid fod y sawl oedd yn gyfrifol wedi derbyn gorchymyn gan y Kremlin i ladd Nemtsov yn dilyn sylwadau beirniadol ganddo am yr Arlywydd Putin a rôl Rwsia yn yr anghydfod â’r Wcráin.
Ond dywed yr awdurdodau eu bod nhw’n ymchwilio i nifer o resymau posib am y llofruddiaeth.