Mae’r gantores opera Sarah Brightman wedi datgelu ei bod hi’n ymarfer am 16 awr y dydd ac yn dysgu Rwsieg fel rhan o’i pharatoadau i berfformio yn y gofod.
Mae Brightman, seren y sioe gerdd Phantom of the Opera, yn bwriadu teithio i’r gofod yn ddiweddarach eleni, ac mae hi’n derbyn hyfforddiant ym Mosgo.
Dywedodd ei bod hi’n sefyll profion wythnosol mewn ymgais i fod yn barod ar gyfer y daith.
Dywedodd wrth bapur newydd y Sunday Times: “Os ydych chi’n arwain cerddorfa, allwch chi ddim jyst deall rhan ohono ac ambell nodyn fan hyn a fan draw. Rhaid i chi ddeall y cyfan o A-Z.
“Mae’n codi ofn ofnadwy arna i. Dw i ddim wedi cael profion ers i fi fod yn ferch ysgol.”
Mae hi wedi bod yn derbyn cyngor am ganu yn y gofod gan Chris Hadfield, a ganodd ‘Space Oddity’ gan David Bowie o’r Ganolfan Ofod Ryngwladol yn 2013.
Dywedodd fod ei bywyd egnïol, sy’n cynnwys perfformio ym mhedwar ban y byd, wedi ei helpu hi i baratoi’n drylwyr.
Mae’r gantores wedi gwerthu 30 miliwn o recordiau ar draws y byd.